golli priod tyner a gofalus ar y môr, fod Gwen Jones yn bendant yn erbyn i'w hunig fachgen ddewis yr unrhyw alwedigaeth beryglus. A hyderai y deuai i hoffi ei le yn yr Ynyswen, ac i lynu wrth y tir am ei fywoliaeth.
Gartref y cysgai Harri bob nos, gan nad oedd ond lled dau gae rhyngddo a'r ffermdy. A phob nos bron, gyda map neu lyfr yn ymwneud â'r môr y byddai'r bachgen. Yr oedd llyfrgell dda yn perthyn i gapel Minymor y dyddiau hynny, ac yn hyn yr oedd yr ardaL ymhell o flaen yr oes. Cyrchai Harri lyfrau oddiyno i'w darllen, a gofid i'w fam oedd gweld mai hanesion am y môr a ddygai adref. Codai hynny ddadl frwd rhyngddynt yn bur fynych. Llyfrau Saesneg fyddent gan mwyaf, ac er na ddeallai Gwen Jones lawer o'r iaith honno, dywedai'r darluniau ynddynt wrthi beth oedd eu nodwedd.
Arhosodd Harri i weini ar y fferm o ddechrau'r gwanwyn wedi ei adfer i'w iechyd hyd ddechrau'r gaeaf. Ond un noson yn nechrau Tachwedd, blwyddyn ar ôl colli'r hen Gapten, daeth Harri i'r tŷ, ac meddai wrth ei fam, " Mam, 'rydw i wedi 'madal oddiwrth Huw Tomos."
"Be' di'r mater, machgen i?" gofynnodd ei fam mewn syndod a pheth braw.
"O!" oedd yr ateb, " mi wyddoch o'r gore nad ydi'n dda gin i mo waith ffarm, ac mai i'r môr y mae arna i eisio mynd. Mae Huw Tomos yn mynd i'r ffair fory i gyflogi gwas at y gaeaf."
"Machgen annwyl i, 'dydi o 'n ddim iws i ti feddwl mynd i'r môr at ddechrau'r gaea' mawr 'ma," ebe'r fam, gan geisio gohirio'r trychineb, os nad ei rwystro.
Ar hyn, pwy ddaeth i'r tŷ ond Huw Evans, brawd i Gwen Jones, saer yn y pentref wrth ei alwedigaeth. Gwelodd yn union fod rhyw anghydwelediad rhwng y fam a'r mab, wrth weld y naill yn plygu'i phen yn drist uwchben ei gweill, tra'r llall wrth y ford â golwg anniddig arno.
"Beth ydi'r mater yma heno? Be' sy', Gwen?" gofynnodd yn ei ffordd wyllt, sydyn.