ysgogiad o eiddo'r dyn, rhag iddo geisio dianc neu wneud rhyw niwed iddynt.
"Ai o'r Aber yr ydach chi'ch dau?" gofynnodd y dyn,—dyn, fel y gwelai'r bechgyn erbyn hyn, at oed y mate, a golwg lled afler arno, a llygaid bychain aflonydd arwyddai nad oedd yn gymeriad i ymddiried ynddo.
"O ymyl yno, o Finymor," ebe Harri.
"Mi wn i am y lle," ebe'r dyn. "Tuag wyth mlynedd yn ôl, yr oedd William Jones, y mate sy hefo chi, a minnau'n hwylio ar yr un llong, y 'Lark.'
"Glywsoch chi sôn amdani hi?"
"Llong Capten Morris," ebe Harri'n agor ei lygaid gan syndod cynhyddol, "'roeddem ni yn ei adnabod ef yn dda iawn."
"O," ebe'r dyn, a'i lygaid yn tanio," 'roeddwn inna'n ei adnabod o—yn well na chi, mae'n debyg; a mae yntau'n siwr o'm hadnabod inna pan wêl o fi eto."
"Wêl o monoch chi yn ei fyw," ebe Harri, " mae o wedi marw."
"O 'n wir; mae'n dda iddo fo hynny," ebe'r dyn, gyda threm a ddychrynai'r bechgyn.
Teimlai Harri ei waed yn twymo wrth glywed y dyn yn siarad mor ddiystyrilyd am ei hen gyfaill, ond ymataliodd rhag dweud dim i'w amddiffyn rhag cythruddo'r dyn, ac arosodd iddo fynd ymlaen efo'i stori.
"Roedd gin i bapura o werth mawr, a wyddai neb ond William Jones a Chapten Morris amdanyn nhw. Yn Hambro 'ma roedd y 'Lark,' a mi es i 'sgarmes yn y dre ryw noswaith. Mi laddwyd dyn, a fi gafodd y bai. Mi ges fy ngyrru i garchar am naw mlynedd, a'r wythnos ddweutha y gollyngwyd fi'n rhydd. Mi welais William Jones ar y stryd y noson o'r blaen heb iddo fo ngweld i, a 'rydw i wedi gwylio'r llong 'ma byth er hynny, a phan glywis i 'ch bod chi'n hwylio fory, mi benderfynis y mynnwn i gael chwilio am fy mhapura i edrach oeddan nhw gin William Jones, Ac mi feddylis i fod pawb wedi mynd i'r lan heno; dwn i ddim o ble'r andros y deuthoch chi."