"Mi fu hefo mi neithiwr," oedd yr ateb, " a mae o wedi credu nad ydi'r papura ddim gin i. A wyddost ti be, mae o wedi f'argyhoeddi fi fod yna ryw werth ynddyn' nhw, a minnau wedi arfer meddwl mai lol oeddan nhw."
Ofnai Harri iddo ofyn a glywsai ef rywbeth amdanynt, a bron na thybiai fod y mate yn amau ei fod yn gwybod, ond yn ffodus iddo daeth y Capten heibio i roi pen ar yr ymddiddan. Tipyn yn gynhyrfus fu mynwes Harri trwy'r dydd tra'n ceisio cyflawni'i waith. Yn y prynhawn yr oedd y criw yn cael eu talu i ffwrdd, gan fod y fordaith drosodd; ond yn gymysg a'i lawenydd o fynd a dyrnaid go dda o aur i'w fam, yr oedd yr anesmwythyd o berthynas i'r papurau, ac ar y ffordd adref, temtid ef i ddweud yr holl hanes wrth Dafydd Glandon. Yr oedd ganddo berffaith ffydd yn ei gyfaill. ond rhywfodd anodd oedd ganddo ddweud y gyfrinach wrth neb—hyd yn oed wrth ei fam ei hun, ac ymataliodd rhag dweud wrth Dafydd.
Trannoeth yr oedd yn rhydd wedi cwblhau ei fordaith gyntaf, ac heb ail shippio, ac aeth Dafydd ac yntau yn y prynhawn am dro i'r chwarel oedd yn ymyl y pentref i gael ymgom gyda rhai o'u cyfëillion a weithiai yno.
"Wyt ti am shippio hefo'r 'Blodwen' eto?" gofynnodd Harri i Dafydd, tra ar y ffordd tua'r chwarel. "Ydw, os medra i. Wyt ti?" oedd yr ateb. "Nac ydw," ebe Harri'n benderfynol, "rydw i am fynd ymhellach na Hamburg, os ca i gyfle. Wyddost ti fod Capten Evans y Morfa adre?"
"Na wyddwn i," ebe Dafydd.
"Wel, mae o, a mae'i long o yn Lerpwl. Dyna i ti long nobl sy gyno fo—llong bedwar mast—a mae hi'n mynd i Awstralia a llefydd pell felly. 'Rydw i am ofyn ga i fynd hefo fo. Ddoi di?" "Wel, na ddof wir! Awstralia! Mi fyddi i ffwrdd am flynyddoedd, os doi di'n ôl o gwbl. Mae'n well gin i fentro mywyd ar longau bach yr Aber, a bod adra yn o aml na mynd i lefydd pell."