Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ngofal y Capten. Ac wedi i mi wella, chefais i ddim cyfle i ddod y ffordd hyn o gwbl hyd heddiw. Ai tybed fod fy mhapurau i yma ar ei ôl?

Pe buasai Mrs. Morris yn wraig graff, diau y sylwasai ar anghysonderau amlwg y stori a adroddid wrthi, ond gwraig syml, garedig, gredinol ydoedd. Yn siriol, gwahoddodd hwynt i chwilio'r gist fawr lle cadwai'r Capten ei bapurau, ac meddai, " Mae'r cwbl o'i bapurau yma, ond y rhai gafodd Harri bach, Bwlchglas."

"Pwy?" ebe William Jones, oblegid efe, fel y mae'r darllenydd yn ddiau wedi casglu oedd y gŵr byr, a Twm Dafis, ei gyfaill mynwesol erbyn hyn, oedd y llall, "Harri fu ar y ' Blodwen'? Wyr o rywbeth am bapurau'r Capten?"

"'Does neb ŵyr yn well," ebe'r weddw, "'roedd y ddau'n gyfeillion mawr, a Harri oedd hefo fo pan y collwyd o."

Chwiliwyd y gist mewn distawrwydd, ac meddai Twm Dafis, ar ôl mynd yn lled agos i'w gwaelod, gan gydio mewn rhyw hen chart diwerth, "Dyma fo mhapur i. Diolch yn fawr i chi, Mrs. Morris."

Ac allan a'r ddau, a thrwy'r pentref heb yngan gair wrth ei gilydd. Ond wedi cyrraedd i fan unig ar y ffordd, tynnodd Twm Dafis y papur gawsai yn y gist o'i boced, ac wedi ei rwygo'n fân ddamau, taflodd ef ar lawr.

"Wyt ti'n gweld bod y pry' wedi bod yn ein gafael ni a ninnau heb wybod?" meddai.

"'Roeddwn i'n amau arno fo y gwyddai fo rywbeth am y busnes. 'Rydw i 'n gwel'd 'rwan pam yr oedd o 'n holi gymaint o hanes y papurau," ebe'i gydymaith. "Rhaid i ni gadw'n llygaid ar y gwalch bach, a rhwystro iddo gael y blaen arnom, a chael y papur oddiarno os oes modd. Rydan ni'n ddau ymhen un," ebe Twm Dafis.

Daeth hanes yr ymweliad i glustiau Harri gyda'r nos pan alwodd i edrych am Mrs. Morris, a chynhyddodd ei anesmwythyd. Gwyddai bellach fod y gelynion ar ei warthaf, ond penderfynodd y gwnai ei orau i'w trechu. Bu'n gorwedd yn effro'n ei wely am oriau y noson