honno yn ceisio penderfynu sut orau i ddiogelu'r papurau gwerthfawr rhag ei elynion. Rhaid, wrth gwrs, fyddai mynd â hwy i'w ganlyn pan ai i'r môr, oblegid pwy wyddai beth allai ddigwydd i'w fam yn ystod ei absenoldeb? A rhaid fyddai mynd â hwy, os y caffai le fel y disgwyliai gyda Chapten Evans ar daith i Awstralia, rhag y digwyddai y deuai cyfle iddo ymweled â Rahiti, ynys y trysor. Ond beth i'w wneud â hwy yn y cyfamser—hyd yr âi i'r môr? Prin y credai y byddent yn ddiogel yn ei gist yn y llofft, hyd yn oed wedi ei chloi, oblegid pwy wyddai nad allai'r ddau ddihiryn dorri i'r tŷ a'u lladrata? Meddyliodd am guddfanau diogel tuallan i'r tŷ, ac wedi dwys ystyriaeth, penderfynodd o blaid hen geubren y gwyddai amdano yn y cae eithin fel y lle diogelaf i'w guddio. Yn blygeiniol drannoeth, tynnodd yr amlen o'r gist fach, ac wedi edrych i bob cyfeiriad i sicrhau nad oedd neb yn ei wylio, aeth i'r cae eithin, a dododd ef mewn twll dirgelaidd mewn hen geubren, gan deimlo ei fod yn hollol ddiogel yno.
Rhyw fis a fu'r "Blodwen " yn yr Aber cyn hwylio drachefn am yr Almaen gyda llechau. Yn ystod yr amser yna byddai Harri'n ymwelydd lled fynych a'r Aber, a chyfarfyddai â William Jones a Twm Dafis yno bron bob tro. Siaradent yn gyfeillgar ag ef— yn ymddangosiadol felly—ond gwyddai Harri mai brad oedd yn eu calon tuag ato. Rhoisant ar ddeall iddo eu bod ill dau yn hwylio ar y "Mona" am Hamburg o Gaernarfon, cyn gynted ag y byddai'n barod, a chymrent amynt ei wawdio'n ysgafn eifod wedi cael digon ar y môr, ac am lynu ar y tir. Ni ddywedasai Harri hynny wrthynt, ond yr oedd yn fodlon iddynt gredu felly, ac ni cheisiodd eu cywiro. Ond druan o Harri! yr oedd Dafydd Glandon yn hollol anfwriadol a difeddwl-ddrwg wedi ei fradychu iddynt, a gwyddai'r ddau mai gyda'r "Arfonia," llong fawr Capten Evans, y bwriadai hwylio o Lerpwl. Daeth y dydd i'r " Blodwen " hwylio, ac aeth Harri i lawr i'r Aber gyda Dafydd i'w weld yn cychwyn.