Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni welodd yr un o'i ddau elyn y bore hwnnw, a chymrodd yn ganiataol eu bod hwythau wedi eu galw at y "Mona." Ymhen deuddydd wedi i'r "Blodwen" hwylio, ymadawodd Capten Evans am Lerpwl at ei long, wedi addo lle i Harri, ac y cai air pan fyddai angen iddo ymuno â'r llong. Teimlai Harri raddau o ollyngdod wedi i'w ddau elyn ddiflannu fel y tybiai, a chyrchodd yr amlen a'i chynnwys oll-bwysig i'r tŷ, a dododd ef yn ofalus yng ngwaelod y gist fawr oedd ganddo'n mynd i'r môr—cist gref o wneuthuriad ei ewythr, y saer.

IX. YR AIL FORDAITH

NEWYDD drwg iawn i Gwen Jones oedd fod Harri am fynd mor bell oddicartref. Yr oedd wedi rhyw ledobeithio ei fod wedi cael digon ar y môr ar ôl y fordaith gyntaf, a loes i'w chalon oedd deall am ei fwriad i fynd gyda'r "Arfonia," Yr oedd rhyw atgasedd i'w 'chalon ynglŷn â'r enw Awstralia. Wyddai hi ddim am y lle, ond mai yno yr hwyliasai ei phriod hawddgar, Peter Jones, ar ei fordaith olaf, a chredai fod yno ryw beryglon anghyffredin yn y rhan hwnnw o'r byd, a phrin y credai weithiau y deuai Harri'n ôl. Ceisiodd ymhob modd ei ddarbwyllo rhag mynd, ond yn ofer. Pe gwybuasai am bapur y Capten, diau y dyblasai ei hymdrechion i'w atal. Yr oedd y bachgen rywfodd yn ystod ei arosiad byr adref wedi mynd yn anwylach nag erioed yn ei golwg, a'r bachgen yntau, er yn garedig wrth ei fam gynt, wedi dangos mwy o serch ac anwyldeb tuag ati ar ôl dod o'r fordaith nag a ddangosasai erioed o'r blaen, gan ei fod yn mynd yn hŷn, ac yn gallu sylweddoli cariad mam yn well.

Ymhen yr wythnos wedi i Capten Evans fynd i Lerpwl, daeth gair oddiyno i Harri yn erchi iddo ddod yno yn ddioed. Trwm i'r fam oedd y ffarwelio, a