Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ynys y Trysor.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

thrwm fuasai i'r bachgen onibai bod gobaith—gobaith llwyddiant yn y wlad bell a dychweliad gorfoleddus—; yn ei gynnal. "Peidiwch a phoeni, mam," meddai wrth gychwyn, "mi ddo i 'n ôl i chi wedi gwneud fy ffortiwn, a mi wnawn ni blas hardd ar y cae eithin, a mi fyddwch yn meddwl y byd o'ch bachgen wedyn."

Gwenu'n bruddaidd wnai'r fam wrth ei eiriau.

"Wel, machgen i," meddai, a dagrau'n perlio yn ei llygaid, " does dim ond rhoi d'ofal di i'r Brenin Mawr. Yn Ei law O y byddi di ymhob man. Cofia fod yn fachgen da, a chymer ofal ohonot dy hun."

Dyna'i chyngor olaf iddo pan gychwynai am y trên, a llawer gwaith wedi hynny y daeth golygfa'i ffarwelio a'i fam yn fyw i gof Harri.

Cyn y nos, yr oedd ar fwrdd yr "Arfonia," llong hardd bedwar mast, yn un o ddociau Lerpwl, yn rhwym i Valparaiso ar ochr orllewinol de'r Amerig, ac oddi yno, fel y tybid, i Awstralia. Er ei syndod a'i fraw, pwy welai Harri ar y dec yn ei ddisgwyl ond William Jones cyn-fate y "Blodwen," gyda gwên fuddugoliaethus ar ei wyneb. Ceisiodd Harri guddio'i deimladau rhagddo, ond synnodd fwy nag erioed at sirioldeb ei groesawiad iddo. Yr oedd mor wahanol i'r hyn a ddisgwyliai oddiwrth William Jones, ac amheuai— yn wir, gwyddai—fod rhyw gynllun ar dro. Ond yr oedd y dyn yn ymddangos mor onest yn ei lawenydd o weld Harri. Os mai ffug ydoedd, rhaid ei fod yn rhagrithiwr digymar.

"'Roeddwn i 'n meddwl 'ch bod chi wedi shippio ar y ' Mona,' " ebe Harri'n ddiniwed.

"'Roeddwn i wedi shippio, ond Capten Evans ddaru bwyso'n daer arna i a Thwm Dafis i ddod hefo'r 'Arfonia.'"

"Twm Dafis! ydi yntau yma hefyd? ebe Harri, gan fradychu ei syndod.

Amheuai Harrí fod gwên watwarus yn chwarae am eiliad ar wyneb William Jones wrth weld fel yr oedd y newydd am Dwm Dafis wedi peri syndod i'r bachgen. Ond os oedd gwawd ar ei wyneb, am eiliad y bu, ac atebodd mewn tôn eithaf naturiol.