ddangosasent tuag ato ar y fordaith. Galwasant ef yn bob enw, a soniasant am y trysor cuddiedig, a'u penderfyniad i ddod o hyd iddo. Drannoeth, daeth y ddau at Harri i'w gymell i'r dref gyda hwynt drachefn, ond gwrthododd yn bendant fynd. Yr oedd eu geiriau y noson cynt wedi eu bradychu iddo. Gwelai mai eu hamcan oedd ei ennill i fod yn un ohonynt, ac i gael gafael yn y papur trwy deg os yn bosibl. Wedi methu'r ffordd honno, gwyddai y gallai ddisgwyl iddynt geisio trwy drais.
Un noswaith, tra'r "Arfonia" yn Valparaiso, cafodd Harri ei hun yn y forecastle gyda'r ddau Gymro a neb arall yno gyda hwynt, a theimlai cyn iddynt ddweud yr un gair wrtho fod rhywbeth ar ddigwydd yn ei hanes. Wrthi'n ysgrifennu llythyr at ei fam yr oedd Harri pan ddaeth y ddau i mewn, a chyn hir wedi iddynt eistedd, gofynnodd William Jones iddo:
"Glywaist ti i ble mae'r llong yn mynd oddiyma, Harri?"
"Do, i Awstralia," ebe yntau.
"Ie, i Brisbane," ebe William Jones.
Yna bu distawrwydd am ennyd tra'r ddau ddihiryn yn edrych ar ei gilydd, a Harri'n parhau i ysgrifennu gan gymryd arno fod yn hollol ddifater o'u presenoldeb,—er y curai'i galon gan bryder.
"Paid ag ysgrifennu am funud, Harri," ebe Twm Dafis i dorri ar y distawrwydd, ac ufuddhaodd y bachgen yn ebrwydd, gan droi i edrych arnynt.
"Mi wyddost," ychwanegodd Twm Dafis gan graffu' yn wyneb y bachgen, "mae'n debyg, pam y daeth William Jones a minnau ar y llong yma?"
"Sut y gŵn i hynny?" meddai Harri. "Capten Evans ddaru'ch cymell chi, on'tê?"
"Wel mi ddeuda i wrthat ti," ebe Twm Dafis, "a gofala am wrando'n ofalus ar bob gair ddeuda i; gan' fod hynn yn bwysig i ti."
Teimlai Harri ei hun yn dechrau crynu a gwelwi, ond ymwrolodd i wynebu unrhyw berygl allsai ddod i'w ran, gan fod yr helynt yn amlwg yn dod i bwynt.