ceiff neu ceith, nid ca, a ddywedasai'r bardd ar lafar. Ni ddylid beio gormod arno am ddilyn ffurfiau y tybid yng nghyfnod ei ieuenctid ef eu bod yn gywirach na ffurfiau byw Cymraeg Cymreig. Nid rhaid synnu chwaith ato am fethu deall pam y dywedir diwaetha, diwetha, dwetha, er na ddywedodd neb erioed diweth yn lle diwedd. Anawsterau fel hyn oedd achos ei ddirmyg digrif ef at "geiliogod y colegau," chwedl yntau. Yr un diddordeb mewn cynghanedd sy'n cyfrif am droseddau eraill o'i eiddo, nad rhaid eu nodi yma, yn erbyn iaith y werin, ac am gymysgedd sy'n peri i ddyn feddwl am y peth a elwid gynt yn wers facaronig," pethau megis "A pha le mae y full moon"? a "Put me in Ynys Patmos."
Pa beth bynnag yw'r farn gymwys ar chwaeth at bethau o'r fath, ac ar ba fesur o'r chwaeth honno y mae diddordeb yn yr Englyn yn dibynnu, fe wnaeth Gwilym Deudraeth ddigon o englynion llwyddiannus i'w osod ymhlith yr epigramyddion, a theifl y casgliad hwn oleuni diddorol iawn ar hanes a safonau'r peth a elwir weithiau yn "llenyddiaeth werinol" yng Nghymru, heb sôn am safonau cymdeithasol, gwleidyddol a chrefyddol y peth a elwir yn "ddiwylliant Cymreig." Yr oedd un gamp arbennig ar Wilym Deudraeth—gwelai a chyfaddefai rai o'i wendidau ei hun, fel gŵr a welai ddigrifwch rhai o'i nodweddion, ac ymddengys i mi nad oes wenwyn ym machogrwydd ei eiriau am eraill. Y mae ei ddisgrifiadau o ddyddiau ei ieuenctid, ei atgofion a'i edifeirwch, yn rhagori, ac ambell fflach mewn un llinell, megis "Baw a dim yw'r byd yma," yn dangos gweledigaeth, ar dro, sy'n awgrymu'r peth a allasai fod, ac yn tirioni "beirniadaeth."
ii: vii: '43.T.G.J.