Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Awen Barod.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLINOS MANOD.[1]

LLINOS Manod sy'n codi—ysig llesg
A'i llais wrth delori;
Rhed angerdd drwy ei cherddi,
A gwin nef, debygwn i.


ARTHUR WILLIAMS
(TENORYDD TALSARNAU).

FEL un o'r plant mae antur—ac enaid
Canu yn dy natur;
Llwyddiant dy lais, perllais pur,
Nid yw'n wyrth—da iawn Arthur.



LLEW OWAIN
(GOLYGYDD "Y Genedl").

I GYWIRO ac arwain—Y Genedl
Sy'n ogoniant Prydain,
Heblaw llenor, cerddor cain
Galluog yw Llew Owain.



CADEIRIO DEWI EMRYS.
(Yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl am Awdl "Dafydd Ap Gwilym.")

EMRYS yw'r enfys eirianfawr—ei gwawl
Ar "Ap Gwilym" glodfawr;
Tremiwn ar wên ein tramawr
Awdur o fewn cadair fawr.



PRIFEIRDD y DE, "J.J.," A "JOB."

DAU o arwyr diwyro—barn i lys
Breiniol iaith nac Esgob;
Ni ddaeara beirdd Ewrob
Feirdd y De, "J.J." a "Job."


  1. Kate Ann Jones (Evans ar ôl priodi ym 1919) cantores leol boblogaidd rhwng y ddau ryfel byd