96 EFENGYL IOAN. XVI. gwirionedd i chwi; Buddiol yw i chwi fy myned i ym- aith: canys onid âf fi, ni ddaw y Diddanydd attoch; S eithr os mi a àf, mi a'i hanfonaf ef attoch. A phan ddėl, efe a argyhoedda y byd o bechod, ac o gyf- giawnder, ac o farn: O bechod, am nad ydynt yn credu Buddiol yw i chwi. Yr un geiriau yn hollol ag a lefarasai Caia- ffas (xi. 50), ac am yr un amgylchiad; ond y fath wahaniaeth! Canys onid ai fi (yn fanwl, "canys onid af ymaith," heb y rhag- enw Fi"), ni ddaw y Diddanydd (y Dadleuwr ") atoch. Am- hosibl oedd i'r Ysbryd ddyfod heb i'r Iesu fyned ymaith, canys trwy ei angau yr oedd y Gwaredwr i ennill y pwerau a'i galluogai Ef i anfon yr Ysbryd, a hefyd a alluogai'r Ysbryd i wneud ei waith. Eithr os mi a af (yn fanwl, "a af ar fy nhaith "), mi a'i han. fonai (yn fanwl, anfonaf," heb y rhagenw Mi) ef atoch. Myned ymaith" oddi wrth y disgyblion; myned ar daith" at y Tad. Gwyddai'r Gwaredwr y byddai'r daith" yn un drom i'r eithaf; ond gwyddai hefyd y cyrhaeddai ben ei siwrnai. 8. A phan ddel, Efe (gwell, "Ac Ef, wedi dyfod,") a argy. hoedda. Wrth argyhoeddi" yma golygir datgan y gwirionedd, ei brofi, ei egluro, a'i gymhwyso at y person unigol yn y fath fodd nes gorfodi hwnnw, un ai i'w dderbyn, neu ynteu i'w wrthod yn ym- wybodol a bwriadol. Pa un o'r ddau ganlyniad hyn sydd i ddilyn yr argyhoeddiad," ni ddywaid y Gwaredwr; ond beth bynnag a fyddai effaith yr argyhoeddiad ar blant dynion yn gyffredinol, ei effaith ar y disgyblion a fyddai eu calonogi a'u nerthu trwy ddangos. iddynt fod Duw o'u plaid. Y byd. Dyma enw'r Gwaredwr ar y personau yr oedd yr Ysbryd i'w hargyhoeddi. Golygir hwy fel rhai nad ydynt yn credu yng Nghrist, ac eto fel rhai ag y gellir trwy yr argyhoeddiad hwn eu hennill i gredu. O bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn. Cywirach, " ynghylch pechod, ynghylch cyfiawnder, ac ynghylch barn;" h.y., byddai i'r Ysbryd ddangos i'r byd beth yw pechod, beth yw cyfiawnder, a pheth yw barn. 9. O bechod (ynghylch pechod "), am nad ydynt yn credu ynof fi (yn fanwl, "Mi). Hanfod a gwreiddyn pechod yw gwrthod credu yng Nghrist pan ddatguddir Ef. Yr hyn sydd yn penderfynu cymeriad dyn yw agwedd ei feddwl a'i galon tuag at Iesu Grist. Daw'r dyn i ddeall gwir ystyr pechod pan ddatguddir Crist iddo: hyd oni ddatguddir Ef, y mae syniad y dyn am bechod yn ang- hywir.
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/100
Gwedd