Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

10 ynof fi; O gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy
11 Nhad, ac ni'm gwelwch i mwyach; O farn, oblegid
12 tywysog y byd hwn a farnwyd. Y mae gennyf
etto lawer o bethau i'w dywedyd i chwi, ond ni ellwch


10. O gyfiawnder ("ynghylch cyfiawnder "). Y mae'r gair "cyfiawnder" yn adn. 8 ac yma i'w ddeall yn ei ystyr ehangaf,— "cyd-iawnder" cyffredinol, Duw a dynion a'r holl gread mewn cytgord perffaith a'i gilydd. Pechod sydd wedi dyrysu y cytgord hwn: am hynny, i orseddu cyfiawnder rhaid concro pechod.

Am fy mod yn myned (yn myned ymaith ") at fy Nhad (cywirach, at y Tad "). Cyn myned o'r Iesu ymaith at y Tad, nid oedd buddugoliaeth cyfiawnder wedi ei hennill, oblegid traddodwyd y Cyfiawn ei Hun i farwolaeth gan farnwyr anghyfiawn. Ond trwy ei fynediad Ef at y Tad (h.y., trwy ei angau, ei atgyfodiad a'i esgyniad), nid yn unig gorseddwyd cyfiawnder yn deriynol, ond hefyd datguddiwyd i'r byd beth yw cyfiawnder. Hanfod pechod yw gwrthwynebu Crist: hanfod cyfiawnder yw bod mewn undeb ag Ef.

Ac ni'm gwelwch (yn llythrennol, nid ydych yn fy nghanfod ") I mwyach. Tra yr oedd y dwyfol Fab yn arwain bywyd gweledig ar y ddaear, yr oedd amodau a chyfyngiadau y bywyd hwnnw'n gwneud argyhoeddi'r byd o gyfiawnder yn amhosibl.

11. O farn ("ynghylch barn"). "Barn" yn gyffredinol, ac nid barn gondemniol yn unig, a olygir yn adn. 8 ac yma.

Oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd (gwell, oblegid y mae tywysog y byd hwn wedi ei farnu"). Am dywysog y byd hwn " gweler ar xii. 31. Yma eto nid yw'r ferf o angenrheidrwydd yn golygu barn gondemniol; ond gan inai tywysog y byd hwn" yw'r gwrthrych barn gondemniol yw'r unig ystyr bosibl. Ac yr oedd y condemniad eisoes wedi digwydd ("wedi ei farnu "). Er mewn un ystyr nad oedd buddugoliaeth y groes eto wedi ei hennill (gweler ar adn. 10), yr oedd eisoes gystal ag wedi ei hennill. Ac yng ngoleuni condemniad tywysog y byd hwn byddai i'r Ysbryd ddangos i'r byd beth yw safon pob barn gywir.

12. Y mae gennyf eto lawer o bethau i'w dywedyd i chwi. Yn xv. 15 dywaid y Gwaredwr ei fod wedi hysbysu iddynt bopeth a glywsai gan ei Dad; ac felly yr oedd, ond megis yn yr eginyn. Yr oedd arnynt eisiau eglurhad pellach ar yr hyn a glywsent, yn en— wedig am ei angau Ef.

Ond ni ellwch eu dwyn yr awrhon. Golyga'r gair a gyfieithir "dwyn" gario baich, a hwnnw'n faich llethol. Ei atgyfodiad Ef a roddai iddynt nerth i ddwyn y baich, a hefyd a ysgafnhâi'r baich iddynt.