Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

100 20 EFENGYL IOAN. XVI. 19 Yna y gwybu yr Iesu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo; ac a ddywedodd wrthynt, Ai ymofyn yr ydych à'ch gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch? Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Chwi a wylwch ac a alerwch, a'r byd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion; ond eich tristwch a 21 droir yn llawenydd. Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni y plen- tyn, nid yw hi yn cofio ei gofid mwyach, gan lawen- 22 ydd geni dyn i'r byd. A chwithau am hynny ydych yr awrhon mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf à chwi drachefn, a'ch calon a lawenycha, a'ch llawen- 19. Yna y gwybu yr Iesu. Cywirach, "Gwybu Iesu." Ai ymofyn yr ydych a'ch gilydd am hyn, am hyn yr ydych yn ymofyn a'ch gilydd,? Gwell, Ai 20. Chwi a ŵylwch ac a alerwch, a'r byd a lawenycha. Dyna ganlyniad yr "ychydig ennyd" cyntaf. Byddai'r Gwaredwr yn destun galar i'r disgyblion, ac yn destun llawenydd i'r byd. Eithr (gadawer y gair hwn allan, a chysyllter y ddwy frawddeg sydd yn dilyn â'i gilydd) chwi a fyddwch dristion, ond eich tristwch a droir yn llawenydd. Nid yn lle eich tristwch daw llawenydd;" mwy o lawer,-yr oedd y tristwch ei hun i fyned trwy weddnewid- iad; a'r gweddnewidiad hwn a fyddai canlyniad yr ail ychydig en- nyd." 21. Gwraig. Gwell, Y wraig," h.y., unrhyw wraig. Dyma'r ddeddf gyffredinol. Gan lawenydd geni dyn (h.y., nid gwryw, ond unrhyw un sydd yn feddiannol ar holl gyneddfau a phosibilrwydd dynoliaeth) i'r byd. 22. A chwithau am hynny ydych yr awrhon mewn tristwch (yn fanwl, "Am hynny, yr awron, y mae gennych chwithau dristwch "). Golyga hyn, nid yn unig eu bod yn drist, ond bod tristwch yn fedd. iant iddynt, h.y., eu bod yn llawn sylweddoli beth yw tristwch. Cyfeiria'r geiriau "am hynny" at y gyffelybiaeth flaenorol,-y fam wrth esgor. Mewn rhyw ystyr, yr oedd sefyllfa'r disgyblion cyntaf, yn eu perthynas ag Eglwys y dyfodol, yn cyfateb i sefyllfa mam. Iddynt hwy y disgynnodd y fraint o ddioddef y gwewyr o esgor ar yr Eglwys fawr gyffredinol.