Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XVI. EFENGYL IOAN. 105 PENNOD XVII. Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac efe a gododd ei lygaid i'r nef, ac a ddywedodd, Y Tad, daeth yr awr; gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau: 1. Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu (yn fanwl, "Iesu "). Ac efe a gododd ei lygaid i'r nef, ac a ddywedodd. Yn fanwl, "a chan godi ei lygaid i'r nef, dywedodd." Y Tad, daeth yr awr: gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau (yn fanwl, fel y gogoneddo y Mab Di"). Wrth y gogon- eddiad cyntaf, gogonedda dy Fab,"-yr ydym i olygu, aid yn unig nerthu'r Mab i ddioddef, ac nid yn unig amlygu Duwdod y Mab i ddynion ar y ddaear, er bod y naill a'r llall yn gynwysedig. yn y gogoneddiad yr ystyr yw, ar i'r Tad ogoneddu'r Mab yn y nef- oed 1 yn ogystal ag ar y ddaear, yngolwg Duw yn ogystal ag yngolwg dynion. Canlyniad ac amcan y gogoneddiad hwn a fyddai i'r Mab hefyd ogoneddu'r Tad: gogoniant y Tad yw nod a diben eithaf peth. Sail y deisyfiad hwn (a holl ddeisyfiadau'r weddi hon) yw'r berthynas hanfodol rhwng yr Arglwydd Iesu a'r Tad ("y Mab," nid y rhagenw personol Fi"). 15- 1'r weddi fawr hon, ac nid i'r "Pader," y perthyn yn fwyaf pii- odol yr enw Gweddi'r Arglwydd." Gweddi a ddysgwyd ganddo i'w ddisgyblion yw'r Pader," ac y mae ynddi o leiaf un deisyf- iad, "A maddau i ni ein dyledion," oedd yn amhosibl i'r Gwar- edwr ei Hun; ond gweddi yw hon na allasaí neb ei hoffrymu ond Ef. Amlwg yw bod y disgyblion wedi clywed y weddi, a bod y Gwaredwr wedi bwriadu iddynt ei chlywed: felly cyfyd y cwestiwa, Fa le yr oedd Ef a hwythau ar y pryd? I ateb y cwestiwn hwn, rhaid gofyn yn gyntaf, Pa bryd y gadawsant yr oruwchystafell? Rhaid dewis rhwng dau ateb. (1) Eu bod wedi myned allan ar na- waith pan ddywedodd y Gwaredwr, "Codwch, awn oddi yma " (xiv. 31). (2) Eu bod, er codi ohonynt ar unwaith y pryd hwanw, wedi aros yn yr oruwchystafell, ac nad aethant allan oddi yno hyd ar ôl offrymiad y weddi. Os derbynnir (2), rhaid credu-ac nid yw hynny nac amhosibl nac annhebyg--fod yr Arglwydd Iesu, er wedi bwriadu gadael yr ystafell ar unwaith, mor llawn o'r meddyliau a gynhyrfai ei enaid fel y parhaodd i annerch y disgyblion tra yr oedd Ef a hwythau wedi codi ac yn sefyll, ar fin myned allan, ond heb fyned; ac o ganlyniad mai yn yr oruwchystafell hefyd yr offrymwyd y weddi. Os derbynnir (1), rhaid golyn ymha le y llefarodd yr Iesu'r geiriau yn xv. a xvi., ac y gweddiodd. Amhosibl yw credu mai yn yr heol, neu ar y ffordd wrth gerdded: y mae natur yr an- erchiad, a mwy fyth y weddi, yn cau allan y syniad. Rhaid mai