XVII. EFENGYL IOAN. 107 3 tragywyddol. A hyn yw y bywyd tragywyddol; idd- ynt dy adnabod di yr unig wir Dduw, a'r hwn a an- 3. A hyn yw y bywyd tragwyddol. Y mae yn yr iaith Roeg ddau air yn golygu bywyd ": sef bios' (y bywyd yr ydym yn ei fyw) a zoe (y bywyd trwy yr hwn yr ydym yn byw). Yr olaf sydd yma. Y syniad poblogaidd cyffredin am ystyr y gair "tragwyddol yw "diderfyn o ran parhad; ond y mae llawer mwy na hynny yn y gair Groeg, ac yn y gair Cymraeg hefyd. Y mae'r bywyd yn dra- gwyddol yn ei barhad am ei fod yn dragwyddol yn ei natur. Sylwer hefyd ar y fannod," y bywyd tragwyddol." Un bywyd tragwyddol sydd; a diffiniad o hwnnw sydd yn yr adnod hon. Iddynt dy adnabod di, &c. Yn llythrennol, fel yr adnabyddont Di," &c. Felly, ar yr olwg gyntaf, gellid tybied mai ateb sydd yma i'r cwestiwn, Beth yw amcan y bywyd tragwyddol? yn hytrach nag i'r cwestiwn, Beth yw 'r bywyd tragwyddol? Ond yr ateb i'r naill yw'r ateb i'r llall hefyd. Adnabyddiaeth o Dduw ac o Iesu Grist yw haniod neu sylwedd y bywyd; a chynhyrchu mwyfwy o'r un ad- nabyddiaeth yw amcan y bywyd. nid gwybodaeth o ffeithiau, ond adnabyddiaeth o Bersonau, yw'r bywyd tragwyddol. Eu hadna- bod, nid eu hamgyffred; canys ni all creadur byth lwyr amgyffred dim, heb sôn am amgyffred Duw. Ond er na all dyn amgyffred yr Anfeidrol, gall ei adnabod. Dengys y ferf, yr hon sydd yn yr amser presennol, fod yr adnabyddiaeth hon yn barhaol a chynyddol. Wedi i ddyn unwaith adnabod Duw a Christ, daw trwy hynny i'w adna- bod yn well o hyd. Perygl y Cenhedloedd, gyda'u lluoedd duwiau, oedd methu ag adnabod yr unig wir Dduw." Yr oedd yr Iddewon yn rhydd oddi wrth beryglon aml-dduwiaeth: eu perygl hwy oedd methu ag adnabod Iesu Grist, a thrwy hynny, wedi'r cwbl, fethu ag adnabod Duw. Eiddo pwy yw geiriau'r adnod hon? A oeddynt, yn y ffurf y maent gennym ni, yn rhan wreiddiol o'r weddi? Ynteu a yw Ioan. yma wedi aralleirio, ac o bosibl wedi crynhoi, rhai o ymadroddion y Gwaredwr? Ar y cyntaf, teimlwn yn siomedig os rhaid inni gredu nad geiriau'r Gwaredwr yw'r geiriau hyn. Ond y mae anawsterau ar ffordd credu mai ei eiriau Ef ydynt yn eu ffurf bresennol. (1) Os yr Arglwydd Iesu ei Hun sydd yma yn diffinio'r bywyd tragwyddol, y mae braidd yn syndod mai mewn gweddi ar ei Dad, ac nid mewn anerchiad i'r disgyblion, y gwna hynny. Fel rhan o weddi, ac yn enwedig o'r fath weddi gan y fath un ar y fath achlysur, ym- ddengys geiriau fel hyn yn annisgwyliadwy; ond fel aralleiriad neu grynodeb gan yr Efengylwr, ymddangosant yn dra naturiol. (2) Y mae yn yr adnod hon ddau ymadrodd ag y buasai Ioan yn debycach na'r Gwaredwr ei Hun o'u defnyddio. Un yw yr unig wir Dduw," ymadrodd na cheir mo'i debyg yn unman ymhlith geiriau eraill yr Arglwydd Iesu, ond y ceir ei debyg ("y Gwir," neu "y Cywir") ddwywaith yn i Ioan v. 20. Y llall yw'r enw "Iesu Grist.
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/111
Gwedd