XVII. EFENGYL IOAN. 109 roddaist i mi allan o'r byd: eiddot ti oeddynt, a thi a'u rhoddaist hwynt i mi; a hwy a gadwasant dy air 7 di. Yr awrhon y gwybuant mai oddi wrthyt ti y mae 8 yr holl bethau a roddaist i mi: Canys y geiriau a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; a hwy a'u derbyn- iasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y daethum i allan, ac a gredasant mai tydi a'm hanfon- ion hyn yn dyfod at Grist yng ngweithrediad rhydd eu hewyllys eu hunain, à bod y dynion sydd yn gwrthod Crist yn ei wrthod o'u hew- yllys eu hunain. Felly nid yw'r rhoddi " gan y Tad yn rhyddhau y gwrthodwyr o'u cyfrifoldeb. Eiddot ti oeddynt. Nid fel creaduriaid yn unig, nac ychwaith yn unig fel aelodau o genedl Israel; ond yn hytrach fel Israel o fewn Israel," fel dynion oedd eisoes yn barod, o ran agwedd eu meddwl a'u calon, i dderbyn Crist. A hwy a gadwasant (yn llythrennol, ac y maent wedi cadw ") dy air di. Wrth y "gair" hwn golygir holl ddysgeidiaeth y Gwar- edwr. Crist oedd wedi llefaru'r gair," ond gair y Tad ydoedd (gweler xii. 49). Yr un ystyr sydd i gadw " yma ag yn xiv. 15. 7. Yr awrhon y gwybuant (yn llythrennol, y maent wedi gwy- bod") mai oddi wrthyt ti y mae yr holl bethau (yn llythrennol, yr holl bethau cynifer ag ") a roddaist i mi. Wrth "yr holl bethaul golygir, nid y geiriau'n unig, ond y gweithredoedd a'r pwerau hefyd. Rhoddion y Tad i Grist oedd y cwbl; ac yr oedd y disgyblion erbyn hyn wedi dyfod i wybod hynny. 8. Canys y geiriau ("y dywediadau ") a roddaist i mi, a roddais (yn llythrennol, yr wyf wedi eu rhoddi ") iddynt hwy; a hwy a'u derbyniasant. Dyna'r ddau reswm am y ffaith a fynegir yn adn. 7. Yr oedd y disgyblion wedi gwybod," (1) am fod yr Iesu wedi rhoddi'r dywediadau" iddynt; (2) am eu bod hwythau wedi eu derbyn (nid eu clywed yn unig, ond eu "derbyn "). .ac Ac a wybuant yn wir . . . . ac a gredasant. Dyma ddau ganlyniad y derbyn " (1) gwybod, (2) credu. Buasem yn disgwyl y "credu o flaen y gwybod," megis yng ngeiriau Petr yn vi. 69; oherwydd ymddengys gwybod yn uwch na chredu. Er hynny es- gynneb, ac nid disgynneb, sydd yma. Gwelwn hynny trwy gyf. erbynnu'r hyn yr oedd y disgyblion wedi ei wybod â'r hyn yr oedd- ynt wedi ei gredu. Yr oeddynt wedi gwybod yn wir" mai oddi wrth Dduw y daethai'r Iesu allan; yr oedd ganddynt ddigon o dystiol- aeth i'w sicrhau, nid yn unig mai oddi wrth Dduw yr oedd "yr holl
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/113
Gwedd