XVII. EFENGYL IOAN. III II ynddynt. Ac nid wyf mwyach yn y byd, ond y rhai hyn sydd yn y byd, a myfi sydd yn dyfod attat ti. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt trwy dy enw, y rhai a 12 roddaist i mi; fel y byddont un, megis ninnau. Tra fum gyd â hwynt yn y byd, mi a'u cedwais yn dy Yn awr a'r Gwaredwr ymlaen i ddweud paham yr oedd ya rhaid iddo weddio fel hyn dros ei ddisgyblion: yr oedd ysgariadi ddigwydd rhyngddo Ef a hwynt. Nid dyma'r tro cyntaf, o lawer iawn, iddo weddio drostynt; ond yr oedd rheswm newydd dros iddo wneud yn awr. Ac nid wyf mwyach yn y byd. Llefara'r Gwaredwr fel pe buasai ei ymadawiad eisoes wedi digwydd. Ond y rhai hyn sydd (cywirach, "ac y maent hwy ") yn y byd, a myfi sydd yn dyfod (sylwer ar amser presennol y ferf) atat ti. Y Tad sancteiddiol. Gwell, "Dad sanctaidd." Gyda'r geiriau hyn dechrau erfyniadau'r weddi dros y disgyblion. Arwyddocâd ar- bennig y gair sanctaidd yn y cyfarchiad hwn yw bod yr hyn a ddeisyfai'r Gwaredwr, nid yn unig yn gyson à sancteiddrwydd Duw, ond yn seiliedig arno. Cymharer y cyfarchiad "Dad cyfiawn" yn adn. 25. Darlleniad un- Cadw hwynt trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi. frydol y llawysgrifau gorau yw cadw hwynt yn dy enw, yr hwn yr wyt wedi ei roddi i Mi." Rhoddasai'r Tad ei enw ei Hun i'r Mab: h.y., yr oedd y Mab wedi ei gynysgaeddu gan y Tad â holl urddas ac awdurdod y Tad ei Hun. Gweddiai'r Gwaredwr am i'r Tad gadw'r disgyblion, nid yn unig trwy'r Enw hwn, ond ynddo. Yr Enw hwn oedd awyrgylch eu bywyd i fod. "Awyr i adar, dwfr i bysgod, Duw i ddyn (William Morris, Cilgerran). Pa bryd y rhoddasai'r Tad ei enw i'r Mab? Rhoddasai ef iddo fel Person dwyfol yn y tragwydd- oldeb diddechrau: ond rhoddodd ef iddo hefyd ac at hynny, y mae'n debyg, y cyfeiria'r Gwaredwr yma-yng nghyflawnder yr amser, i'w arfogi gogyfer à'i waith ar y ddaear. Fel y byddont un. Megis yn x. 30,- Myfi a'r Tad un ydym,'". felly yma hefyd, y mae'r gair un yn y rhyw neuter,' ac felly'n golygu un sylwedd neu hanfod. Dibynna'r geiriau "fel y byddont ar y deisyfiad "cadw hwynt;" amcan y cadw yw uno." Megys ninnau (yn fanwl, "megis Ni "'). un 12. Tra fûm gyd â hwynt yn y byd. byd." Gadawer allan y geiriau "yn y Mi a'u cedwais yn dy enw; y rhai a roddaist i mi, a gedwais. Yn hytrach cyfieither a darllener fel hyn yr oeddwn I yn eu cadw yn dy
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/115
Gwedd