XVII. EFENGYL IOAN. 113 15 wyf finnau o'r byd. Nid wyf yn gweddio ar i ti eu cymmeryd hwynt allan o'r byd, eithr ar i ti eu cadw 16 hwynt rhag y drwg. O'r byd nid ydynt, megis nad 17 wyf finnau o'r byd. Sancteiddia hwynt yn dy wirion- 18 edd: dy air sydd wirionedd. Fel yr anfonaist fi i'r 19 byd, felly yr anfonais innau hwythau i'r byd. Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio fy hun, fel y 15. Nid wyf yn gweddio ar i ti eu cymryd hwynt allan o'r byd. Ar un olwg, naturiol fuasai i'r Iesu ddeisyf hynny; ac amlwg yw bod y deisyfiad wedi ymgynnig i'w feddwl. Ond gwyddai Ef mai trwy wynebu anawsterau, ac nid trwy eu hosgoi, yr oedd y disgyblion, megis Yntau, i ennill y fuddugoliaeth. Eithr ar i ti eu cadw hwynt rhag y drwg (cywirach, rhag yr un drwg," sef y diafol. Yma eto y gair am gadw" yw terein. Pe phulattein fuasai'r gair, yr ystyr fuasai eu cadw (eu gwarchod) rhag ymosodiadau'r diafol: ond gan mai terein' sydd yma, yr ystyr yw eu cadw rhag holl ddylanwad y diafol. 16. Ail-adroddiad yw'r adnod hon o eiriau olaf adn. 14: ond yma. gwna'r Gwaredwr hwy'n sail i'r deisyfiad newydd sydd yn adn. 17. 17. Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd (cywirach, "yn y gwirion- edd "). Beth a olygir wrth "sancteiddio yma? Cyfuniad o ddwy ystyr y gair, sef neilltuo a glanhau. Yr oedd y disgyblion yn lân (xiii. 10); ond yr oedd angen perffeithio eu glendid moesol. Y mae hynny yn gynwysedig yn y deisyfiad hwn: ond cynnwys, yn ych- wanegol, fod i'r Tad gymryd meddiant llwyr o holl gyneddfau ac ym- adferthoedd y disgyblion, nes eu gwneud yn hollol ymgysegredig i'w gwaith ac i'w Meistr. "Y gwirionedd" yw awyrgylch a chyfrwng y
- sancteiddiad."
Dy air sydd wirionedd-nid "sydd wir" yn unig. Y mae holl awdurdod a nerth gwirionedd ynddo. 18. Fel yr anfonaist fi i'r byd, felly yr anfonais innau hwythau ("hwy") i'r byd. "Felly,"-i'r un gwaith, i'r un amcan, a chyda'r un arfogaeth mor bell ag yr oedd yn bosibl i ddynion ffaeledig ei gwisgo. Llefara'r Gwaredwr am anfoniad y disgyblion fel peth oedd eisoes wedi digwydd ac felly yr oedd, canys yr oeddynt eisoes wedi bod allan ar daith i bregethu ac i iacháu. Er mai eto yr oeddynt i wneud eu gwaith mwyaf, yr oedd yr anfoniad cyntaf yn ddigon i'w hawdurdodi ar gyfer y gwaith hwnnw. 19. Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio fy hun. Nid Hunanlanhad oedd y "sancteiddio" hwn, canys yr oedd Ef o'i en- edigaeth yn berffaith lân oddi wrth bechod. Er hynny, o bob ym. H