Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

114 EFENGYL IOAN, XVII. byddont hwythau wedi eu sancteiddio yn y gwirion- 20 edd. Ac nid wyf yn gweddio dros y rhai hyn yn unig, eithr dros y rhai hefyd a gredant ynof fi trwy eu 21 hymadrodd hwynt: Fel y byddont oll yn un; megis yr wyt ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti; fel y byddont hwythau un ynom ni: fel y credo y byd mai tydi a'm sancteiddiad a fu erioed, ei ymsancteiddiad Ef oedd y mwyaf a'r an- hawsaf; canys golygai ei fod yn llwyr ymgyflwyno i waith na allai neb ond Ef ei gyflawni, ac i ddioddefaint na allai neb ond Ef ei ddwyn. Yr oedd y Gwaredwr wedi bod yn ei sancteiddio ei Hun ar hyd ei oes; ac yn awr yr oedd yr ymsancteiddio hwn i gyrraedd ei uchafnod. Fel y byddont hwythau wedi eu sancteiddio yn y gwirionedd (cy- wirach, mewn gwirionedd,"-h.y., wedi eu gwir sancteiddio, ac nid eu sancteiddio mewn enw neu ffurf yn unig). Gwelir felly fod y Gwaredwr, yn y ddwy adnod hyn, yn dwyn. ymlaen ddwy ddadl dros i'r Tad sancteiddio'r disgyblion. (1) Yr oedd arnynt angen sancteiddiad ar gyfer eu gwaith yn y byd (adn. 18). (2) Sancteiddiad y disgyblion oedd amcan ymsancteiddiad y Gwar- edwr ei Hun (adn. 19). Sylwer mai dau ddeisyfiad yn unig a wna'r Gwaredwr ar ran ei ddisgyblion "Cadw hwynt " (adn. 11) a Sancteiddia hwynt" (adn. 17). Ond cynhwysai'r ddau hyn bopeth yr oedd ar y disgyblion ei eisiau. Nid digon cadw heb sancteiddio: nid digon diogelwch heb gynnydd. Yn awr, wedi gweddio drosto ei Hun (adn. 1-5), a thros ei ddisgyblion cyntaf (adn. 6-19), â'r Gwaredwr ymlaen i weddio dros eu holynwyr (adn. 20-26). Eithr dros y rhai hefyd a gredant (yn llythrennol, "sydd yn credu ") ynof fi trwy eu hymadrodd hwynt. Diddyma'r Iesu'r agendor rhwng y presennol a'r dyfodol: yr oedd Eglwys y dyfodol eisoes yn bresennol iddo Ef. 21. Fel y byddont oll yn un," oll," sef y disgyblion cyntaf a'u hol- ynwyr ym mhob oes a gwlad. Y mae undeb yr Eglwys uwchlaw amser a lle. Megis yr wyt ti (yn fanwl, "megis ti "), y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti. Y mae'r Tad a'r Mab yn un am eu bod yn ei gilydd. Beth yw ystyr hynny, ni all iaith ddynol ddweud na meddwl dynol am- gyffred. Ond gellir dweud hyn, popeth a feddylia, a deimla ac a wna y naill, fe'i meddylir, fe'i teimlir ac fe'i gwneir gan y llall. Fel y byddont hwythau un ynom ni. Cywirach, "fel y byddont hwythau ynom ni." Gadawer allan y gair "un" y mae'r syniad