Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XVII. EFENGYL IOAN. 115 22 hanfonaist i. A'r gogoniant a roddaist i mi, a rodd- ais iddynt hwy; fel y byddont un, megis yr ydym ni yn 23 un. Myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi; fel y byddont wedi eu perffeithio yn un, ac fel y gwypo y byd mai tydi a'm hanfonaist i, a charu o honot hwynt, megis yn bresennol, ond y gair yn absennol. Wrth hwythau" golygir yn arbennig, disgyblion y dyfodol, er heb gau allan y disgyblion cyntaf. Duw yw canolbwynt undeb: felly bod yn y Tad ac yng Nghrist yw sail undeb yr Eglwys. Fel y credo y byd mai tydi a'm hanfonaist i. Dyma'r trydydd "fel" yn yr adnod: y mae'r ail yn esbonio'r cyntaf, a'r trydydd yn dibynnu ar y cyntaf a'r ail. Canlyniad undeb yr Eglwys yn y Tad ac yng Nghrist yw ennill y byd i gredu yn nwyfol anfoniad Crist. I'r graddau y mae'r Eglwys yn anffyddlon i'r delfryd o undeb, y mae hefyd yn rhwystro'r byd i gredu yng Nghrist. 22. A'r gogoniant a roddaist (yr wyt wedi ei roddi ") i mi, a rodd- ais (cywirach, yr wyf Fi wedi ei roddi,"-sylwer ar y rhagenw "Fi") iddynt hwy. Yn ychwanegol at y tri gogoniant a nodwyd (gweler ar adn. 5) sydd yn perthyn i'r Arglwydd Iesu, perthynai iddo ogon- iant arall, o'r hwn y gallai'r disgyblion gyfranogi, a'r hwn a roddwyd ganddo iddynt. Hwn oedd ei ogoniant fel Pen yr Eglwys. Gwir na allai ac na all neb fod yn Ben ond Ef: ond gan fod y Pen a'r aelod- au'n ffurfio un corff, cyfranoga'r aelodau yng ngogoniant y Pen. Wrth "hwy "golygir holl ddilynwyr yr Iesu ym mhob oes. Yr oedd y mwyafrif mawr ohonynt heb eu geni eto: ond yr oedd y gogoniant wedi ei roddi i'r rheini pan roddwyd ef i'r disgyblion cyntaf. 23. Myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi. Gan fod y Tad yng Nghrist y mae hefyd, trwy Grist, yn y disgyblion. Fel y byddont wedi eu perffeithio yn un (yn fanwl, "i un "). Daw'r Eglwys yn berffaith pan ddaw yn un. Y mae eisoes yn un o ran posibilrwydd, oherwydd y mae'r gogoniant (adn. 22) wedi ei roddi iddi; ond hyd yn oed heddiw y mae'r posibilrwydd hwn ymhell o ddyfod yn ffaith, a'r Eglwys, gan hynny, ymhell o fod yn berffaith. Ac fel y gwypo y byd mai tydi a'm hanfonaist i. Gadawer allan y cysylltair "ac." "Fel y credo y byd" yn adn. 21: ond yma, fel y gwypo'r byd." Canlyniad credu yw gwybod. A charu ohonot hwynt, megis y ceraist fi. Yr oedd y byd i wybod, nid yn unig fod Crist ei Hun yn Anfonedig y Tad, ond hefyd fod dilynwyr Crist yn wrthrychau cariad y Tad.