Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

116 EFENGYL IOAN. XVII. 24 y ceraist fi. Y Tad, y rhai a roddaist i mi, yr wyf yn ewyllysio, lle yr wyf fi, fod o honynt hwythau hefyd gyd a myfi; fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist i mi: oblegid ti a'm ceraist cyn seiliad y byd. Y Tad cyfiawn, nid adnabu y byd dydi: eithr mi a'th ad- nabum, a'r rhai hyn a wybu mai tydi a'm hanfon- 25 24. Y Tad ("Dad"), y rhai (cywirach, yr hyn ") a roddaist ("yr wyt wedi ei roddi ") i mi. Wrth yr hyn" golygir yr Eglwys fel cyfanswm. Yr wyf yn ewyllysio. Nid gweddio y mae Ef mwyach, ond dat- gan ei ewyllys. Edrych y Gwaredwr ymlaen y tu hwnt i'r dyfodol agos, gyda'i fynych alar, mynych lafur, mynych gri," at y dyfodol. pellach pryd y byddai diwedd galar, diwedd llafur, glanio draw." Lle yr wyf fi,-amser presennol (gweler ar xii. 26). Fod ohonynt hwythau hefyd gyd â myfi. Y mae'r Eglwys ar y ddaear mewn undeb a chymundeb à Christ: ond y mae rhywbeth mwy yn ei haros,-cymundeb ag Ef yn ei ogoniant nefol. Fel y gwelont. Yn hytrach, fel y canfyddont," neu yr edrych. ont ar." Nid gweled yr Iesu am funud, neu mewn ysbeidiau ysgar- edig, y bydd y saint yn y nefoedd; ond edrych ar ei hyfryd wedd yn ddifwlch ac yn dragywydd. Fy ngogoniant a roddaist ("yr hwn yr wyt wedi ei roddi ") i mi. Hwn yw'r gogoniant y sonnir amdano yn adn. 22. Yr oedd y Gwar- edwr eisoes wedi rhoddi'r gogoniant hwn i'r disgyblion: ond yn y byd a ddaw yr oeddynt hwy i ganfod llawn ystyr y gogoniant. Oblegid ti a'm ceraist cyn seiliad y byd. Beth yw cysylltiad y geiriau hyn? Cysylltir hwynt gan rai â'r geiriau blaenorol,-" Fy ngogoniant, yr hwn yr wyt wedi ei roddi i Mi am i Ti fy ngharu cyn seiliad y byd." Ond efallai eu bod i'w cysylltu yn hytrach â'r geir- iau "fel y canfyddont;" fel pe dywedasai'r Gwaredwr: "Ceraist Fi cyn seiliad y byd; ac un o ganlyniadau'r cariad hwn yw, i'm dilyn- wyr gael canfod fy ngogoniant." 25. Y Tad (Dad") cyfiawn. Cymharer y cyfarchiad "Dad sanct- aidd yn adn. 11. Seilia'r Gwaredwr ei eiriolaeth dros ei ddilynwyr ar gyfiawnder y Tad. Os dwyfol drugaredd a ddechreuodd y gwaith da ynddynt, galwai dwyfol gyfiawnder am ei orffen ar ôl ei ddechrau. Nid adnabu y byd dydi; eithr mi a'th adnabum, a'r rhai hyn a wybu, &c. Grym y cyferbyniad yw hyn: mai trwy Iesu Grist yn unig y mae adnabod Duw. Ambosibl yw ei adnabod yng ngoleuni deall a