Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

118 EFENGYL IOAN. PENNOD XVIII. XVIII. I Gwedi i'r Iesu ddywedyd y geiriau hyn, efe a aeth allan, efe a'i ddisgyblion, dros afon Cedron, lle yr 2 oedd gardd, i'r hon yr aeth efe a'i ddisgyblion. A Judas hefyd, yr hwn a'i bradychodd ef, a adwaenai y 1. Gwedi i'r Iesu efe a'i ddisgyblion. Yn fanwl, Gwedi dywedyd y pethau hyn" (nid y geiriau hyn "), aeth Iesu " (nid yr Iesu ") allan gyda'i ddisgyblion." "Allan "o'r oruwch- ystafell a olygir (gweler ar xvii. 1). Dros afon Cedron. Yn llythrennol, dros ffrydlif y Cedrwydd." Ystyr fanwl y gair a gyfieithir "afon" yw ffrydlif aeafol." Cidron," gair Hebraeg yn golygu leidiog" neu dywyll," yw enw gwreiddiol yr afon: ond y mae'r Efengylwr wedi niwed ffurf ac ystyr yr enw (er nad ef oedd y cyntaf i wneud hynny, canys ceir yr un ymadrodd ag sydd gan yr Efengylwr yn y LXX.) a hyd yn oed wedi ei droi o'r rhif unigol i'r rhif lluosog, gan alw'r afon yn "ffrydlif y Cedrwydd." Gair Groeg yw kedros,' yn golygu cedrwydden." Gwahanai afon "Cedron" fynydd yr Olewydd oddi wrth fynydd Moreia, lle y safai'r deml; a chan fod cedrwydd yn tyfu ar fynydd yr Olewydd, yr oedd rhyw briodoldeb mewn galw'r afon yn ffrydlif y Cedrwydd." Ond nid oes sail ddigonol dros dybied, fel y gwna rhai, fod yr enw Hebraeg gwreiddiol, Cidron, wedi ei roddi ar yr afon, nid oherwydd tywyllwch ei dyfroedd, ond oherwydd tywyllwch y cedrwydd a'i cysgodai. Lle yr oedd gardd, sef ar fynydd yr Olewydd. Nid yw'r Efengyl- wr hwn yn rhoddi enw ar yr ardd: ond ef yw'r unig Efengylwr sydd yn crybwyll "gardd" o gwbl yn y cysylltiad hwn. "Mynydd yr Olewydd yn unig a geir yn Luc: "man a elwid Gethsemane "ym Mathew, a lle yr oedd ei enw Gethsemane" ym Marc. Y gair a gyf- ieithir man "neu "le" ym Mathew a Marc yw chórion,' yr hwn a olyga fferm fechan: felly y tebyg yw mai Gethsemane (gair yn golygu " gwasg olew") oedd enw'r fferm y perthynai'r ardd iddi: a chan fod yr Iesu a'i ddisgyblion yn arfer cyrchu yno, naturiol yw tybied fod perchennog y fferm yn ddisgybl, amlwg neu guddiedig, i'r Gwaredwr. Ni ellir olrhain y traddodiad presennol am safle'r ardd ymhellach yn ôl na dyddiau Cystennin (y than gyntaf o'r 4 ganrif). Y mae'r traddodiad yn agored i ryw gymaint o amheuaeth, am yr ymddengys yn gosod yr ardd yn rhy agos i Jerusalem; eto cytunir na allai'r gwir safle fod nepell o'r safle traddodiadol. yr hwn 2. A Judas hefyd, yr hwn a'i bradychodd ef. Cywirach, " oedd yn ei fradychu Ef." Yr oedd Judas eisoes wedi dechrau ar ei anfadwaith.