Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XVIII. EFENGYL IOAN. 119 lle: oblegid mynych y cyrchasai yr Iesu a'i ddisgybl- 3 ion yno. Judas gan hynny, wedi iddo gael byddin a swyddogion gan yr archoffeiriaid a'r Phariseaid, a A adwaenai y lle. Yn yr ail ganrif, cyhuddodd Celsus, un o elynion llenyddol cyntaf Cristionogaeth, y Gwaredwr o ymguddio yn llwfr rhag ei elynion. Y mae'r ffaith fod Judas yn adnabod y lle yn ddigon o ateb i'r cyhuddiad hwn. Oblegid mynych y cyrchasai yr Iesu a'i ddisgyblion yno. Gwell, oblegid mynych y cydgyfaríu Iesu yno gyda'i ddisgyblion." Aw- gryma'r ferf fod y Gwaredwr yn arfer cyfarfod ei ddisgyblion yno i'r diben o'u haddysgu. Ond erbyn hyn gorffenasai Ef eu haddysgu mewn geiriau. Dichon hefyd ei fod Ef a hwythau, yn ystod eu hym- weliad presennol â Jerusalem, wedi defnyddio'r ardd fel lle i dreulio'r nos: a digon tebyg bod Judas wedi disgwyl eu cael oll yn cysgu pan ddeuai. Ond gweddio, ac nid cysgu, y byddai'r Gwaredwr yn fynych yn y nos; ac i weddio yr aeth Ef i'r ardd ar y noson fawr hon. 3. Judas... yn dyfod." a a ddaeth. Yn fanwl, Y mae Judas . . Gan hynny, sef gan ei fod yn adnabod y lle. Defnyddiodd y brad- wr ei adnabyddiaeth o gysegr gweddiau ei Arglwydd i gyflawni ei an- fadwaith. byddin," cyfieith- Wedi iddo gael byddin a swyddogion. Yn lle er "corfflu" (o filwyr), a doder y fannod o flaen y gair, wedi iddo gael y corfflu a swyddogion." Milwyr Rhufeinig a gyfansoddai'r "corfflu;" ond beth oedd eu nifer, ni wyddom. Rhaid bod yr Iddewon wedi sicrhau'r corfflu hwn trwy ganiatâd Pilat; a thebyg mai eu rheswm dros ei sicrhau oedd, bod arnynt ofn i'r bobl godi a gwaredu'r carcharor. Ond am y "swyddogion," yng ngwasanaeth y deml yr oeddynt hwy, ac felly o dan awdurdod y Sanhedrim (" yr arch- offeiriaid a'r Phariseaid "). Rhywbeth megis rhwng milwyr a hedd- geidwaid oedd y "swyddogion" hyn. Nid oedd unrhyw gysylltiad swyddogol rhyngddynt a'r corfflu, yr hwn oedd o dan awdurdod ei swyddog ei hun (y "milwriad," adn. 12). Gan yr archoffeiriaid a'r Phariseaid. H.y., gan y Sanhedrim (gweler y nodiad blaenorol). At y "swyddogion" yn unig, ac nid at y "corfflu " o gwbl, y cyfeiria'r cymal hwn. Cymharer yr ymad- rodd swyddogion yr Iddewon" yn adn. 12. Nid oedd gan yr Iddew- on" hawl ar y corfflu. A lanternau, a lampau, ac arfau. Er bod y lloer yn llawn adeg y Pasg, tybiai'r Iddewon y gallai'r Iesu ymguddio mewn lle tywyll, ac felly darparwyd y "lanternau" a'r lampau." Yn ôl Meyer, buasai fflamdorchau a lanternau " yn well cyfieithiad na "lanternau a lampau," y lanternau "yn ail ac nid yn gyntaf. Am yr arfau,"