Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

120 EFENGYL IOAN. XVIII. 4 ddaeth yno à lanternau, a lampau, ac arfau. Yr Iesu gan hynny, yn gwybod pob peth a oedd ar ddyfod arno, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthynt, Pwy yr 5 ydych yn ei geisio? Hwy a attebasant iddo, Iesu o Nazareth. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. A Judas, yr hwn a'i bradychodd ef, oedd hefyd yn 6 sefyll gyd â hwynt. Cyn gynted gan hynny ag y dy- wedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn wysg gan y corfflu yr oedd y rheini: nid oedd swyddogion y deml yn arfog, oddieithr yn achlysurol. Mor afreidiol oedd yr holl ddarpariadau hyn Bychan yr adnabyddai'r gelynion yr Hwn a geisient. 4. Yr Iesu (Iesu ") gan hynny, yn gwybod pob peth (" yr holl bethau ") a oedd ar ddyfod (gwell, yn dyfod ") arno. Priodolai Ef ei ddioddefiadau agoshaol i arfaeth Duw, ac nid i lid y gelynion na brad Judas. Gan hynny fe'i rhoddodd ei Hun i fyny'n wirfoddol. A aeth allan, ac a ddywedodd (yn fanwl, "ac y mae yn dywedyd," y presennol byw) wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio? Gwyddai Ef yr ateb cyn gofyn ohono'r cwestiwn; eithr gofyn mewn rhan i am- ddiffyn y disgyblion, ac mewn rhan i orfodi'r gelynion i ystyried ac i gyfaddef beth yr oeddynt yn ei wneud. 5. Hwy a atebasant iddo, Iesu o Nazareth (cywirach, "Iesu y Naz- aread "). Y mae rhyw dinc o ddirmyg yn y ffurf hon ar enw'r Gwar- edwr yng ngenau ei elynion. Yr un ffurf sydd gan Bilat yn y teitl ar y groes yn xix. 19. Yr un pryd, defnyddid y ffurf hon yn achlysurol gan ddisgyblion ac edmygwyr yr Iesu. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. Gadawer allan "yr Iesu," a chyfieither yn syml "dywaid" (y presennol eto) "wrthynt." Gellir casglu nad oedd y gelynion-hyd yn oed Judas-hyd yma wedi adnabod pryd a gwedd yr Iesu yn y goleuni ansicr: ond nid oes sail i dyb rhai o'r esbonwyr Cristionogol cyntaf, fod llygaid y gelynion wedi eu dallu'n wyrthiol. Trefnasai Judas mai ei gusan ef (yr hwn ni nodir o gwbl gan yr Efengylwr hwn) oedd i ddangos i'r erlidwyr pwy oedd yr Hwn a geisient: ond casglwn oddi wrth adroddiad yr Efengylwr hwn fod y Gwaredwr eisoes wedi ei hysbysu ei Hun cyn i Judas ei gusanu. Os felly, rhoddodd Judas y cusan yn gwbl ddi- anghenraid. A Judas, yr hwn a'i bradychodd ("oedd yn ei fradychu ") ef oedd hefyd yn sefyll (cywirach, "wedi sefyll") gyd â hwynt. Felly am- lwg yw nad oedd y cusan eto wedi ei roddi. 6. Cyn gynted gan hynny ag y dywedodd (cywirach, "Gan hynny, pan ddywedodd ") efe wrthynt. Am rym y gan hynny," gweler y nodiad nesaf.