122 EFENGYL IOAN. XVIII. 9 hyn fyned ymaith: Fel y cyflawnid y gair a ddywedasai efe, O'r rhai a roddaist i mi, ni chollais i yr un. 10 Simon Petr gan hynny a chanddo gleddyf, a'i tynnodd ef, ac a darawodd was yr archoffeiriad, ac a
amlygu ei delerau" (y Parch. J. Henry Williams, Rhyl). Ar yr amod hon yn unig yr oedd Ei yn barod i'w roddi ei Hunan i fyny,-fod i'r disgyblion gael dianc. Deuai eu hamser hwy i ddioddef eto; ond rhaid oedd iddo Ef farw'n gyntaf, i'w galluogi hwy i farw, pan ddeuai'r alwad. 9. Fel y cyflawnid y gair a ddywedasai (a ddywedodd ") efe. Ceir y gair hwn yn xvii. 12, ond gyda gwahaniaeth (gweler y nodiad nesaf). O'r rhai a roddaist ("yr wyt wedi eu rhoddi ") i mi, ni chollais i yr un. Sylwer ar ddau wahaniaeth pwysig rhwng y geiriau yma a'r geiriau yn xvii. 12. (1) Yno, y mae'r ferf colli yn oddefol,-" ni chollwyd;" yma, yn weithredol,-"ni chollais i." (2) Yno, y mae eithriad, mab y golledigaeth;" yma nid ces un eithriad. Collwyd Judas, ond nid yr Iesu a'i collasai; "collwyd" un, ond "ni chollais I yr un." 10. Simon Petr gan hynny a chanddo gleddyf. Cyfeiria pob un o'r Efengylwyr at yr amgylchiad hwn, ond Ioan yn unig sydd yn enwi Petr. Cuddiasid ei enw yn y traddodiad llafaredig gwreiddiol er mwyn arbed ei deimladau; ac am yr un rheswm cuddiwyd ei enw gan Mathew, yr hwn oedd lygad-dyst o'r amgylchiad, a chan Marc, yr hwn a ysgrif ennai o dan gyfarwyddyd Petr ei hun. Am Luc, y mae'n eithaf posibl na wyddai ef (yr hwn nad oedd yn un o'r deuddeg, nac yn ysgrifennu o dan gyfarwyddyd un o'r deuddeg) mai Petr oedd y dyn. Ond ys- grifennai Ioan ar ôl marw Petr, yr hwn erbyn hyn oedd wedi dyfod yn seren mor sefydlog yn ffurfafen yr Eglwys fel nad oedd perygl i'w goffadwriaeth ddioddef. Gwelir oddi wrth Luc xxii. 38 fod gan y dis gyblion, rhyngddynt, ddau gleddyf. Gan bwy ohonynt yr oedd y llall, ni wyddom. Yr oedd cario cleddyf ar ddydd gwyl yn waharddedig: a thuedda hyn eto i brofi nad oedd gwyl y Pasg wedi dechrau pan ddal. iwyd a phan groeshoeliwyd y Gwaredwr. A'i tynnodd ef, ac a darawodd was (gaethwas "doulos') yr archoffeiriad. Gellir tybied (er nad oes sicrwydd) mai caethwas dis- tadl i'r archoffeiriad" yn bersonol oedd Malchus, ac nid unrhyw fath ar swyddog. Amlwg yw ei fod yn un o'r rhai mwyaf blaea:law o'r gelynion, a pho ddistadlaf oedd, tebycaf oll ydoedd o geisio ennill ffafr ei feistr trwy ei hynodi ei hun ar yr achlysur. Pwy a olygir yma wrth yr archoffeiriad," ni wyddom: ond y mae'n lled sicr mai un ai Annas neu Caiaffas. Modd bynnag, amlwg yw mai'r Iddewon, ac ny milwyr Rhufeinig a gymerai'r blaen ar yr achlysur.