Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

124 EFENGYL IOAN. XVIII. 14 offeiriad y flwyddyn honno, ydoedd efe. A Chaiaphas oedd yr hwn a gynghorasai'r Iuddewon, mai buddiol oedd farw un dyn dros y bobl. 15 Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu, Simon Petr, a disgybl arall: a'r disgybl hwnnw oedd adnabyddus gan yr arch-offeiriad, ac efe a aeth i mewn gyd â'r Iesu i lys oedd yr archoffeiriad gweithredol? Awgrymir y rheswm yn y cymal nesaf. Canys chwegrwn Caiaffas ydoedd efe. Os gan Caiaffas yr oedd yr awdurdod swyddogol, gan Annas yr oedd y dylanwad per- sonol; a thrwy ddylanwad Annas yr oedd Caiaffas wedi gallu ennill ei swydd a'i chadw. Yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno. Gweler ar xi. 49. 14. A Caiaffas oedd yr hwn, &c. Dywaid yr Efengylwr hyn i ddangos beth oedd i'w ddisgwyl oddi wrth Annas, chwegrwn Caiaffas. 15. Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu, Simon Petr, a disgybl arall. Yr Efenylwr ei hun, yn ddiddadl, oedd y "disgybl arall." Dywaid Mathew a Marc fod yr holl ddisgyblion wedi gadael yr Iesu a ffoi. Os ydym i ddeall y datganiad hwn yn hollol lythrennol, rhaid bod y ddau hyn wedi adennill eu gwroldeb a dychwelyd. Trwy hyn fe'i harweiniodd Petr ei hun i brofedigaeth; ond chwareuodd y "disgybl arallei ran yn rhagorol i'r diwedd. A'r disgybl arall oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad (yn fanwl, i'r archoffeiriad "). Dyma un ddadl a ddefnyddir yn erbyn y syniad traddodiadol, mai Ioan mab Zebedeus oedd awdur yr Efengyl hon. Pa fodd, gofynnir, y gallai pysgodwr o Galilea fod yn adnabyddus i archoffeiriad? Ond nid oes grym yn y ddadl, oblegid nid yw'r peth mewn un modd yn amhosibl. Pa un ai Annas ai Caiaffas oedd yr "archoffeiriad hwn, ni wyddom (gweler y nodiad nesaf). yn y Ac efe a aeth i mewn gyd â'r Iesu i lys (gwell, "i neuadd ") yr archoffeiriad. Nid yw'r gair a gyfieithir llys" yn golygu llys. barn. Dywaid Mathew mai ym mhreswylfod Caiaffas y gwadodd Petr ei Arglwydd: os felly, Caiaffas a olygir wrth yr "archoffeiriad " cymal hwn a'r cymal blaenorol. A hynny sydd fwyaf tebygol, gan mai Caiaffas oedd yr archoffeiriad gweithredol, er mai "at Annas yn gyntaf y dygwyd y Gwaredwr. Gall fod gan Annas lety yn nhŷ Caiaffas, yr hwn, y mae'n debyg, oedd yn dŷ swyddogol. O leiaf, nid oes dim yn amhosibl nac yn annhebyg yn y dybiaeth mai yn nhŷ Caiaffas y bu'r praw o flaen Annas.