Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XVIII. EFENGYL IOAN. 125 16 yr arch-offeiriad. A Phetr a safodd wrth y drws allan. Yna y disgybl arall yr hwn oedd adnabyddus gan yr arch-offeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y 17 ddrysores, ac a ddug Petr i mewn. Yna y dywedodd y llangces oedd ddrysores wrth Petr, Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn? Dywedodd yntau, Nac wyf. 18 A'r gweision a'r swyddogion, gwedi gwneuthur tân glo, o herwydd ei bod hi yn oer, oeddynt yn sefyll, ac yn ymdwymno ac yr oedd Petr gyd â hwynt yn sefyll. ac yn ymdwymno. 16. A Phetr a safodd (gwell, "Ond Petr oedd wedi sefyll ") wrth y drws allan. 17. Yna y dywedodd ("Yna dywaid," presennol) y llangces oedd ddrysores y llangces, y ddrysores ") wrth Petr. Rhaid fod y "dis- gybl anall" wedi myned i mewn i ystafell y praw, gan adael Petr wrtho ei hun. Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn? Y mae'r cwestiwn, yn ei ffurf Gymraeg, yn awgrymu mai ateb cadarnhaol a ddisgwyliai'r ddrysores. Nid felly yn y gwreiddiol yno ateb nacaol a ddisgwylir, fel pe dywedasai'r llangces, Yn sicr nid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn!" Gweled Petr gyda'r Gweled Petr gyda'r disgybl arall" a awgrymodd y cwestiwn' iddi. B Dywedodd (Dywaid ") yntau, Nac wyi. Dyma'r gwadiad cyntaf; cafodd Petr ddau gyfle wedyn i unioni ei ymddygiad, ond syrthio'n ddyfnach a wnaeth bob tro. 18. A'r gweision ("caethweision ") a'r swyddogion. Aethai'r mil- wyr Rhufeinig ymaith erbyn hyn, ac nid cedd yn aros ond "gweis- ion" personol yr archoffeiriad a "swyddogion" y deml. Gwedi gwneuthur tân glo. Nid "glo" yn ein hystyr ni i'r gair, ond charcoal.' Nid oedd yno fflam ddisglair,-dim ond digon o oleuni i ddangos yr wynebau oedd wedi eu troi at y tân. Oherwydd ei bod hi yn oer. Yn llythrennol, "yn oerfel." Peth. eithriadol oedd oerfel yn Jerusalem ar adeg y Pasg. Wrth feddwl am ddioddefiadau'r Gwaredwr, nac anghofier yr oerfel eithriadol hwn. Oeddynt yn sefyll ("wedi sefyll "), ac yn ymdwymno: ac yr oedd Petr ("hefyd ") gyd â hwynt yn sefyll (wedi sefyll "), ac yn ym. dwymno. "Nid pechod oedd iddo ymdwymno wrth dân y gelynion: perygl ydoedd, er ei fod yn gyfreithlon" (Francis Jones, Abergele)...