XVIII. EFENGYL IOAN. 129 29 y pasc. Yna Pilat a aeth allant attynt, ac a ddywed- odd, Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y 30 dyn hwn? Hwy a attebasant ac a ddywedasant wrtho, Oni bai fod hwn yn ddrwg-weithredwr, ni 31 thraddodasem ni ef attat ti. Am hynny y dywedodd Pilat wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a bernwch ef yn ol eich cyfraith chwi. Yna yr Iuddewon a ddywedas- A'r bore ydoedd hi. H.y., yn y bedwaredd wyliadwriaeth,—rhwng tri a chwech yn ôl ein cyfrif ni. Ac nid aethant hwy (gwell, a hwy nid aethant ") i mewn i'r dad. leudy (i'r palas "), rhag eu halogi; eithr fel y gallent fwyta (gwell, fel y bwytaent ") y pasg. Nid oedd y "palas "wedi ei buro oddi wrth lefain halogedig; gan hynny, pe buasent wedi myned i mewn yno, buasai raid iddynt aros heb fwyta'r pasg hyd y 14 o'r mis dilynol (gweler Numeri ix. 11). 29. Yna (Gan hynny ") Pilat a aeth allan atynt, ac a ddywedodd ("ac y mae yn dweud "). Enwir Pilat yn sydyn nid oedd eisiau dweud pwy ydoedd. Yr oedd llawer o lywodraethwyr Rhufeinig cyn- ddrwg ag yntau yn y dyddiau hynny, a chafodd Judea ei cyfran ohon- ynt: ond i'w ran ef y disgynnodd y gorchwyl o farnu Arglwydd y bywyd. Gwelwn ym Mhilat ddyn, nid heb ryw olion o gyfiawnder traddodiadol y Rhufeinwr, ond moethus, llygredig a chreulon; ac yn ei ymddygiad yr adeg hon gwelwn ryw gymaint o gydymdeimlad a'r dioddefydd, yn gymysg â llawer o lid a dirmyg tuag at yr Iddewon. erlidgar. Pa achwyn ...? Gwyddai Pilat rywbeth eisoes am yr ach- wyniad, oherwydd rhaid mai gyda'i ganiatâd ef y cawsai'r Iddewon y corfflu (gweler ar adn. 3): ond yn awr hawlia ddatganiad ffurfiol o'r cyhuddiad. 30. Oni bai fod hwn yn ddrwg.weithredwr (yn fanwl, "Pe na bu- asai hwn yn gwneuthur drwg"). Nid oedd yr Iddewon yn barod. gyda chyhuddiad a allai apelio at Bilat: felly osgoi'r cwestiwn y maent, ac nid ei ateb. 31. Cymerwch chwi ef, &c. Yn y geiriau hyn y mae Pilat yn adgoffa i'r Iddewon fod eu hawdurdod hwy yn derfynedig: a gorfydd hwythau i gydnabod hynny yn eu geiriau nesaf. Yna yr Iddewon a ddywedasant wrtho. "Yna." Gadawer allan y gair Nid cyfreithlawn i ni ladd neb. Dengys yr Iddewon i Bilat mai eis- jau "lladd" yr Iesu oedd arnynt: ond gan Bilat yn unig yr oedd. awdurdod i draddodi i farwolaeth, a gwyddai yntau hynny. Gwir fod I
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/133
Gwedd