132 EFENGYL IOAN. XVIII. 37 fy mrenhiniaeth i oddi yma. Yna y dywedodd Pilat wrtho, Wrth hynny ai Brenhin wyt ti? Yr Iesu a at- ebodd, Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenhin wyf fi. Er mwyn hyn y'm ganed, ac er mwyn hyn y daethum i'r byd, fel y tystiolaethwn i'r gwirionedd. Pob un a'r sydd o'r gwirionedd, sydd yn gwrandaw fy llefer- Ond yr awrhon nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma. Nid yr ystyr yw fod ei frenhiniaeth Ef wedi bod unwaith "oddi yma," ond nad oedd felly mwyach-" yr awron." Yr ystyr yw, "Ond yr awron," h.y., "ond fel mater o ffaith," "nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma." Dywaid y Gwaredwr "oddi yma," ac nid o'r byd hwn" fel o'r blaen, fel pe i ddangos i Bilat fod i'r byd hwn" ei gynrychiolwyr yn y fan a'r lle. 37. Yna ("Am hynny ") y dywedodd Pilat wrtho, Wrth hynny ai Brenin wyt ti? Y mae'r rhagenw "Ti" yn niwedd y frawddeg, ac i'w bwysleisio fel pe dywedasai Pilat, "Ti, yr hwn wyt yn ymddangos. mor annhebyg i frenin,-ai Brenin wedi'r cwbl wyt ti?" Ychydig a ddeallodd Pilat o'r hyn a ddywedasai'r Iesu wrtho: ond deallodd gymaint a hyn,-fod y carcharor hwn yn dweud ei fod, mewn rhyw ystyr, yn Frenin. Yr Iesu a atebodd, Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenin wyf fi. Gofynasai Pilat ei gwestiwn yn y fath fodd ag i awgrymu mai ateb cadarnhaol a ddisgwyliai. Nid acen gwawd sydd yn y cwestiwn, ond acen syndod a phenbleth. Gellir deall ateb yr Iesu mewn un o ddwy ffordd. (1) Fel pe dywedasai, "Ie, Brenin wyf Fi, fel yr wyt ti dy hun yn dywedyd." (2) Fel pe dywedasai, "Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenin ydwyf: yr wyf Finnau'n gadael y mater ar hynny, heb gadarnhau na gwadu dy ddywediad." Dichon mai'r olaf yw'r gol- ygiad cywir: oblegid pe dywedasai'r Gwaredwr mewn geiriau pendant mai Brenin ydoedd, buasai Pilat yn debyg o'i gamddeall. Ar yr un pryd yr oedd Ef eisoes, yn ymarferol, wedi dweud ei fod yn Frenin: ac â ymlaen i gadarnhau hynny yn y geiriau dilynol. Gwell gadael allan y rhagenw "Fi" yn niwedd brawddeg y Gwaredwr, a chyfieithu yn syml, "mai Brenin wyf" (gweler y nodiad nesaf). Er mwyn hyn y'm ganed, ac y deuthum i'r byd. Gwell, "I hyn yr wyf Fi wedi fy ngeni, ac i hyn yr wyf wedi dyfod i'r byd." Gan fod y rhagenw "Fi," yn y gwreiddiol, yn dilyn yn uniongyrchol y ferf "wyf," ymddengys bod cyfieithwyr y Test. Cymraeg wedi gosod y rhagenw i ddiweddu'r frawddeg flaenorol-"mai Brenin wyf Fi." Ond ei le priodol yw yn nechrau'r frawddeg hon. Pwysleisia'r Gwar- edwr y rhagenw "Fi," mewn rhan gyda chyfeiriad at y pwyslais a roddasai Pilat ar y rhagenw "Ti." "I hyn," sef " fel y tystiolaethwn i'r gwirionedd." Beth a olyga'r Gwaredwr yma wrth ei" enedigaeth,"
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/136
Gwedd