Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

136 EFENGYL IOAN. XIX. 4 iau. Pilat gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddy- wedodd wrthynt, Wele yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un 5 bai. Yna y daeth yr Iesu allan, yn arwain y goron ddrain, a'r wisg borphor. A Philat a ddywedodd 6 wrthynt, Wele y dyn. Yna yr arch-offeiriaid a'r swyddogion, pan welsant ef, a lefasant, gan ddywed. yd, Croeshoelia, croeshoelia ef. Pilat a ddywedodd wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a chroeshoeliwch: 4. Pilat gan hynny a aeth allan (cywirach, "Ac aeth Pilat allan ") drachefn. Yr oedd wedi bod i mewn yn rhoddi'r gorchymyn i fflan- gellu'r carcharor. Ac a ddywedodd ("a dywaid ") wrthynt,-h.y., nid wrth y werin fel y cyfryw y tro hwn (megis yn xviii. 38), ond yn arbennig wrth yr archoffeiriaid a'r arweinwyr, er bod y werin hefyd yn bresennol. Wele, yr wyf fi (yr wyf") yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi (nad wyf yn cael ynddo ef un bai (yn llyth- rennol, un achos"). Hyd yma, nid oedd yr Iesu wedi bod allan o'r palas (ond yn unig at Herod ac yn ôl) er pan ddygasid Ef i mewn (xviii. 28). 5. Yna y daeth (gwell, Am hynny daeth ") yr Iesu allan, yn ar. wain (gwell, yn dwyn "neu yn gwisgo ") y goron ddrain, a'r wisg borphor. A Philat a ddywedodd wrthynt (gwell, "A ddywaid wrthynt"). Nid enwir mo Pilat, ond y mae'n ddealledig mai ef sydd yn llefaru. Wele y dyn. Canfu Cristionogion yr oesoedd blygion o ystyr yn y geiriau hyn; ond yng ngenau Pilat apel oeddynt at yr Iddewon,- at eu tosturi ac at eu hymdeimlad o gyfiawnder. Fel pe dywedasai, "Dyma'r olwg sydd ar y dyn hwn bellach: nid rhaid i chwi mwyach ei ofni na chenfigennu wrtho. Yr wyf, yn erbyn fy ewyllys a'm cyd- wybod fy hun, wedi ei fflangellu, ac wedi goddef iddo dderbyn cam- driniaeth gan fy milwyr, er mwyn eich boddio chwi. Gan hynny goddefwch chwithau i minnau yn awr ei ollwng yn rhydd." Yn wir, yr oedd y Dyn" hwn eisoes wedi dioddef cymaint fel mai'r syndod, ar ryw olwg, yw iddo allu byw i gyrraedd y groes. 6. Yna ("Gan hynny ") yr archoffeiriaid a'r swyddogion, pan welsant ef, a lefasant,-h.y., "a waeddasant yn groch." Rhagwelai'r archoffeiriaid a'u hofferynnau-y "swyddogion "y posibilrwydd y buasai apel Pilat at dosturi'r werin yn cyrraedd ei amcan; ac i rag- flaenu hynny, achubasant y cyfle i roddi arweiniad i'r dorf." Croeshoelia, croeshoelia ef. Gadawer allan y rhagenw "ef."