Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XIX. EFENGYL IOAN. 137 7 canys nid wyf fi yn cael dim bai ynddo. Yr Iuddewon a attebasant iddo, Y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni efe a ddylai farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fab Duw. 8 A phan glybu Pilat yr ymadrodd hwnnw, efe a ofnodd Pilat a ddywedodd (Dywaid Pilat") wrthynt, Cymerwch chwi ef, a chroeshoeliwch. Gwyddai Pilat nad ganddynt hwy, ond ganddo ef yn unig, yr oedd yr hawl i groeshoelio. Ond, o'r ochr arall, yr oedd ef, trwy fflangellu'r Iesu, wedi dangos ei wendid ei hun, ac wedi dechrau syrthio o flaen yr Iddewon; a gwyddent hwythau pa fodd i wthio eu mantais hyd yr eithaf. Canys nid wyf fi yn cael dim bai (yn fanwl, "canys myfi nid wyf yn cael achos ") ynddo. 7. Y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni (cywinach, wrth y gyfraith ") efe a ddylai farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fab Duw. O'r diwedd wele'r Iddewon wedi gorfod dwyn ymlaen eu gwir gwyn yn erbyn yr Iesu. Yn flaenorol ceisiasent ei gyhuddo o fod yn cynhyrfwr gwladol, am y tybient mai dyna'r cyhuddiad teb- ycaf o ddylanwadu ar Pilat. Ond gwyddai'r Iddewon eu hunain nad oedd dim gwir yn y cyhuddiad hwn; a phe buasai gwir ynddo, buasai rhai ohonynt hwy y Phariseaid o leiaf, beth bynnag am yr archoffeir- iaid yn debycach o groesawu'r Iesu nag o'i erlid. Felly, er heb alw'n ôl y cyhuddiad cyntaf (at yr hwn y dychwelant eto yn adn. 12), yn awr dygant ymlaen gyhuddiad newydd. Ond pa effaith a gâi'r cyhuddiad newydd hwn ar Pilat, gan nad oedd ef, fel Rhufeinwr, yn malio dim am ddadleuon crefyddol yr Iddewon? Yr ateb yw hyn: Syniad y Rhuf. einwr am grefydd oedd mai rhywbeth cenedlaethol ydoedd,-h.y., bod gan bob cenedl hawl i'w chrefydd ac i'w duwiau ei hun. Yn unol â'r syniad hwn, arfer Ymerodraeth Rhufain oedd gadael llonydd i'r cen- hedloedd a orchfygid ganddi i ddilyn eu crefyddau eu hunain. Ym- ataliodd y Rhufeinwyr rhag erlid hyd yn oed Gristionogaeth ar y cyntaf, am y tybiant nad oedd Cristionogaeth ond ffurf ar y grefydd Iddewig, yr hon oedd grefydd genedlaethol. Credai'r Iddewon fod yr Iesu, trwy ei wneuthur ei Hun yn Fab Duw," wedi gwrthryfela yn erbyn eu crefydd hwy: ac felly disgwyliant y buasai Pilat, mewn cydffurfiad à syniad ac ag arfer Ymerodraeth Rhufain, yn parchu eu crefydd hwy trwy draddodi'r Iesu i'w groeshoelio. 8. A phan glybu (cywirach, "Gan hynny, pan glybu ") Pilat yr ymadrodd hwn, efe a ofnodd yn fwy. Deffrowyd ym mynwes Pilat deimladau amgen nag a ddisgwyliasai'r cyhuddwyr. Iddynt hwy, yr oedd i ddyn ei wneuthur ei hun yn Fab Duw" yn gabledd anni- oddefol: nid felly i Bilat, yr hwn fel Rhufeinwr a gydnabyddai fod- plaeth lliaws o dduwiau a meibion i dduwiau. Holai ef ei hun, "Beth