Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XIX. EFENGYL IOAN. 139 11 i'th ollwng yn rhydd? Yr Iesu a attebodd, Ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: am hynny yr hwn a'm traddodes i ti, .dod Oni wyddost ti (gwell, a wyt heb wybod ") fod gennyf awdur. .? Yn unol â'r llawysgrifau gorau, newidier trefn yr ymadroddion: A wyt heb wybod fod gennyf awdurdod i'th ollwng. yn rhydd, a bod gennyf awdurdod i'th groeshoclio?" Enwa Pilat y gollwng yn rhydd yn gyntaf, nid yn unig am y tybiai mai dyna oedd dymuniad y carcharor, ond hefyd am mai dyna yn ddiddadl oedd dymuniad Pilat ei hun. Gwyddai'r Gwaredwr yn dda fod y naill aw- durdod a'r llall gan Pilat; ond gwyddai hefyd beth oedd i'w ddisgwyl oddi wrth un oedd eisoes wedi dangos ei wendid mor amlwg. 11. Yr Iesu a atebodd. Cywirach, "Atebodd Iesu iddo." Ni byddai i ti ddim awdurdod arnai ii. Gwell, "Ni fuasai i ti ddim awdurdod yn fy erbyn I." Oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod,-h.y.. oddi wrth Dduw. Gellir deall yr ymadrodd hwn mewn un o ddwy ffordd. (1) Bod Pilat wedi derbyn ei awdurdod oddi wrth Dduw fel ffynhon- nell wreiddiol pob awdurdod ddynol a dacarol. Buasai hyn yr un mor wir pe rhywun arall fuasai'r carcharor: ond ymddengys bod y geiriau yn fy erbyn I" yn awgry.nu rhywbeth pellach, sef (2) fod awdurdod Pilat yn erbyn Iesu Grist yn ganlyniad yr Arfaeth Ddwyfol arbennig oedd wedi trefnu i'r Bugail roddi ei einioes dros y defaid. Gweler eto'r nodiad nesaf. Am hynny (am hyn ") yr hwn (sef Caiaffas) a'm traddodes i ti, sydd fwy ei bechod. Mwy" na phwy, neu na pheth? Mwy na Philat yw'r esboniad cyffredin; a chan dderbyn hwn, gwrthyd West- cott y golygiad mai at yr Arfaeth Ddwyfol arbennig y cyfeiria'r Gwar- edwr yn yr ymadrodd blaenorol. Dadl Westcott yw bod Caiaffas a Philat fel ei gilydd yn offerynnau yng nghyflawniad yr Arfaeth honno. Gwir yn ddiau yw bod pechod Caiaffas yn fwy na phechod Pilat; ond hyd yn oed os dyna a olygai'r Gwaredwr, nid yw yn canlyn nad at yr Arfaeth arbennig y cyfeiriasai Ef. Ni allesid disgwyl i Bilat, Rhufein- wr a phagan, wybod dim am yr Arfaeth honno: ond cynrychiolai Caiaffas y genedl etholedig, a gawsai gynnig ar y Goleuni ac a'i gwrth- odasai; ac felly gallesid disgwyl iddo ef wybod rhywbeth am gyngor Duw. Pechcdd Pilat yn erbyn goleuni naturiol rheswm a chydwy- bod; pechodd Caiaffas yn erbyn goleuni datguddiad hefyd. Ond deil v geiriau hyn o eiddo'r Gwaredwr ddehongliad arall, sef bod pechod Caiaffas yn fwy, nid na phechod Pilat, ond nag a fuasai pechod Caiaffas ei hun ar wahân i'r Arfaeth. Nid gwneud pechod Caiaffas yn llai, ond yn fwy, yr oedd y ffaith ei fod ef yn offeryn, anfwriadol ac anymwybodol, yng nghyflawniad yr Arfaeth.