XIX. EFENGYL IOAN. 14I 14 elwir y Palmant, ac yn Hebraeg, Gabbatha. A dar- par-wyl y pasc oedd hi, ac ynghylch y chweched awr: ac efe a ddywedodd wrth yr Iuddewon, Wele eich Bren- ond ceisio gwneud ei gwymp mor debyg i fuddugoliaeth ag y gallai. Daliodd i'r diwedd i ddirmygu'r Iddewon trwy alw'r carcharor yn "frenin" iddynt: ond bychan oedd hynny ar ôl ei ymostyngiad i'w hewyllys. Aw- Ac a eisteddodd ar yr orseddfainge (cywirach, "ar sedd "). gryma absenoldeb y fannod nad sedd swyddogol oedd hon, ond sedd a ddigwyddai fod yn gyfleus ar y pryd. Tybia rhai mai "ac a'i gosod- odd i eistedd ar sedd" a ddylai'r cyfieithiad fod,-h.y., nad eistedd ei hun a wnaeth Pilat, ond gosod yr Iesu i eistedd, i beri iddo ym. ddangos fel brenin. Deil y gwreiddiol y cyfieithiad hwn ond prin y buasai Pilat, er ei wamaled, yn ymddwyn felly. Yn y lle (yn llythrennol, "i le ") a elwir y Palmant (yn fanwl, "Palmant," heb y fannod), ac yn Hebraeg, Gabbatha. Dau enw ar yr un lle, ond tebyg nad cyfystyron mnohonynt. Gelwid y lle'n "Bal- mant" am ei fod wedi ei balmantu à cherrig. Y mae ystyr yr enw "Gabbatha" (yr hwn ni cheir y tu allan i'r T.N., nac yn unman yno ond yma) yn anhysbys. 14. A darpar-wyl y pasg oedd hi. Gan mai ar ddydd Gwener y bu'r croeshoeliad, digwyddai fod yn ddarpar-wyl y Saboth hefyd. Ond at y ffaith ei bod yn ddarpar-ŵyl y pasg y geilw'r Efengylwr ein sylw. Rhaid felly, yn ôl ei adroddiad ef, nad y Pasg oedd y Swper olaf yn yr oruwchystafell. Ac ynghylch y chweched awr. Cywirach, "yr awr oedd ynghylch y chweched,"-heb y cysylltair "ac." Os dilyn y dull henafol o gyfrif oriau, sef dechrau o chwech yn y bore neu chwech yn yr hwyr, y mae'r Efengylwr, y chweched awr, yw hanner nos neu han- ner dydd. Ond y mae hanner nos allan o'r cwestiwn yma: ac y mae hanner dydd yn rhy hwyr, canys yr oedd y Gwaredwr ar y groes ymhell cyn hynny. Rhaid felly mai dilyn y dull diweddarach a phre- sennol o gyfrif oriau y mae'r Efengylwr: h.y., dechrau o hanner nos neu hanner dydd. Felly chwech o'r gloch y bore (yn ôl ein hamser ni) a olygir yma: canys y mae chwech yn yr hwyr eto allan o'r cwestiwn. Cadarnheir hyn gan arfer yr Efengylwr hwn. Pedair gwaith. yn ei Efengyl y noda awr benodol, sef yn i. 39, iv. 6 a 52, ac yma: a dengys Westcott mai'r dull diweddarach o gyfrif oriau a gyfetyb orau i bob un o'r enghreifftiau hyn. Rhaid addef nad oedd hwn yn ddull cyffredin o gyfrif oriau'r pryd hwnnw: canys, er y dechreuai'r Rhuf- einwyr eu dyddiau hanner nos, cyfrifent hwythau, fel yr Iddewon, eu horiau o chwech yr hwyr a chwech y bore. Ar yr un pryd, y mae tyst- iolaethau fod y dull newydd wedi dyfod yn arferedig yn gynnar yn Asia Leiaf: a chan mai yno'r ysgrifennwyd yr Efengyl hon (fel y
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/145
Gwedd