142 15 EFENGYL IOAN. XIX. hin. Eithr hwy a lefasant, Ymaith ag ef, ymaith ag cf, croeshoelia ef. Pilat a ddywedodd wrthynt, A groeshoeliaf fi eich Brenhin chwi? A'r arch-offeiriaid 16 a attebasant, Nid oes i ni frenhin ond Cesar. Yna gan hynny efe a'i traddodes ef iddynt i'w groeshoelio. A hwy a gymmerasant yr Iesu, ac a'i dygasant ymaith. credir hyd yn oed gan rai na chredant mai Ioan fab Zebedeus oedd yr awdur), naturiol yw casglu bod yr Efengylwr yn dilyn defod y rhan- barth yr ysgrifennai ac y trigiannai ynddo. Ac efe a ddywedodd (a dywaid ") wrth yr Iddewon, Wele eich Brenin. 15. Eithr (gwell, Gan hynny ") hwy a lefasant, Ymaith ag ef; ymaith ag ef (yn llythrennol, Cymer ef ymaith, cyiner ef ymaith," -gan olygu ei ladd), croeshoelia ei. A Philat a ddywedodd (Dywaid Pilat ") wrthynt, A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi? (gwell, gan ddilyn trefn y geiriau yn y gwreiddiol, Ai eich Brenin chwi a groeshoeliaf?") A'r archoffeiriaid (gwell, Yr archoffeiriaid ") a atebasant, Nid oes i ni frenin ond Cesar. Y fath gyffes o enau Iddewig! Yr oedd, nid yn unig yn wrthodiad o Iesu o Nazareth fel y Meseia, ond yn wrthodiad hyd yn oed o'r Meseia fel y cyfryw. Nid oedd ar yr arch- offeiriaid eisiau unrhyw Feseia, pa un bynnag ai Iesu o Nazareth ai rhywun arall: Cesar oedd eu dyn hwy. Felly yr oedd y gyffes hon yn wadiad llwyr o draddodiadau a dyheadau'r genedl. Sylwer, modd bynnag, mai cyffes yr archoffeiriaid yn unig oedd hon. Nid yw Ioan yn enwi'r Phariseaid: a sicr yw nad ymunasant, ac nad ymunasent, hwy yn y gyffes. Yr oedd cynffonna í allu Rhufain yn rhan o bolisi sefydlog yr archoffeiriaid, tra y casâi'r Phariseaid Rufain a Chesar â'u holl galon. Ond yr oedd eu casineb hwythau at yr Iesu yn gryfach na'u casineb at Rufain; ac felly goddefasant gyffes yr archoffeiriaid mewn distawrwydd. 16. Yna gan hynny efe a'i traddodes ef iddynt i'w groeshoelio (yn fanwl, fel y croeshoelid Ef"). Nid yw Pilat ei hun yn cyhoeddi dedfryd croeshoeliad ar ei garcharor: yn unig traddoda Ef i'r Iddew- on, gan wybod mai ei groeshoelio a wnaent hwy. Eto y mae ffurf yr ymadrodd yn arwyddocaol: nid fel y croeshoelient Ef," ond "fel y croeshoelid Ef." Yr awgrym yw nad gan yr Iddewon, wedi'r cwbl, vr oedd yr hawl i groeshoelio: ac felly fod Pilat yn gyfnannog á hwynt yn euogrwydd y weithred. Ceisiodd Pilat (er na ddywaid yr Efengylwr hwn mo hynny) olchi ei ddwylaw, yn llythrennol ac yn ffigurol: ond nid oedd yn y cefnfor ddigon o ddwfr i olchi'r gwaed oddi ar ddwylaw Pilat.
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/146
Gwedd