ymadawiad ar y gymdeithas ; ond yn awr byddai ei bresenoldeb yn dragwyddol barhaol.
B. YR YSBRYD GLAN.
Rhoddir lle amlwg i Ysbryd Duw yn yr Hen Destament. Ar y cyntaf ni chysylltid Ef ond a phethau anghyffredin ac eithriadol, megis dewrder Gedeon a chryfder Samson. Edrychid ar drefn gyffredin natur a hanes fel peth i'w gymryd yn ganiataol: ond pan ddigwyddai rhywbeth allan o'r cyffredin, un ai yn y cread neu ym mywyd dyn, priodolid ef i Ysbryd neu "anadi "Duw. Yn ymarferol, nid oedd hyn ond dull arall o ddweud ei fod yn anesboniadwy; oblegid, hyd yma, prin yr oedd unrhyw ymgais i seilio gwaith yr Ysbryd ar egwyddorion cyffredinol. styrid Ef fel achos popeth eithriadol, a dyna'r cwbl. Nid cedd i'w weithrediadau unrhyw arwyddocâd moesol; yn wir, darllenwn an ysbrydion drwg yn dyfod oddi wrth yr Arglwydd i flino Saul ac i dwyllo Ahab. Hyd yn oed ynglŷn â phroffwydoliaeth, yr hyn a bwysleisid ar y cyntaf oedd, nid cenadwri'r proffwyd, ond cyflwr eithriadol ei feddwl a'i gorff ef ei hun wrth ei derbyn. Ond gyda chyfodiad y prif broffwydi caeth cyfnewidiad er gwell. Gwelwyd beth oedd gwaith y proffwyd, sef adnabod Duw yn ei gymeriad moesol, a datgan ei feddwl a'i ewyllys yng ngoleuni'r adnabyddiaeth honno. Felly daethpwyd i ystyried yr Ysbryd fel cyfrwng dwyfol ddatguddiad. Cysylltwyd Ef mewn modd arbennig â'r Meseia. Dywaid Esaia y byddai i'r Ysbryd "orffwys" yn arosol ar y Meseia,—nid disgyn arno ar brydiau. Ac nid yn unig byddai i'r Meseia ei hun feddiannu'r Ysbryd yn yr helaethrwydd mwyaf, ond hefyd (fel y dywaid Joel) byddai i ddyfodiad y Meseia achlysuro ac achosi tywalltiad cyffredinol o'r Ysbryd. Yn lle bod yn gyfyngedig fel o'r blaen i nifer bychan o broffwydi, disgynnai'r Ysbryd ar bob cnawd." Ceir yn yr Hen Destament un agwedd ar waith yr Ysbryd na cheir mohoni yn y Testament Newydd: sef, ei weithrediadau yn y cread. Yn nechrau Genesis, i'r Ysbryd y priodolir dygiad y cread i drefn: os y Tad yw awdur mater o ddim, yr Ysbryd yw awdur trefn o Gryblith. Yn y Salmau, darlunir yr Ysbryd fel un hollbresennol, na ellir floi oddi wrtho; a dangosir yno ac yn Llyfr Job mai'r Ysbryd yw adnewyddwr wyneb y ddaear ac addurnwr y nefoedd.
Yng ngeiriau'r Gwaredwr fel y'u hadroddir yn yr Efengylau Cyfolwg, y mae'r cyfeiriadau at yr Ysbryd Glân yn ysgaredig ac anfynych, ond nid mewn un modd yn ddibwys. Yno y ceir y cyfeiriad at y pechod yn erbyn yr Ysbryd Glân fel y pechod anfaddeuol. Dywaid y Gwaredwr fod y broffwydoliaeth am yr Ysbryd yn Esa. Ixi. wedi ei chyflawni ynddo Ef ei Hun: ac addawa gymorth yr Ysbryd i'w ddisgyblion mewn adegau o anhawster a chyfyngder. Ond yn ysgrifeniadau Paul a Ioan y rhaid chwilio am ddefnyddiau athrawiaeth am yr Ysbryd. I Baul, yr oedd popeth da ym mywyd yr Eglwys a'r credadun unigol yn gynnyrch gweithrediad