Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

146 EFENGYL IOAN. XIX. 26 dalen. Yr Iesu gan hynny, pan welodd ei fam, a'r disgybl yr hwn a garai efe yn sefyll ger llaw, a ddy- A chwaer ei fam ef, Mair gwraig Cleophas (cywirach, "Clopas "). Nid yw'r gair gwraig " yn y gwreiddiol ond awgryma'r gwreiddiol fod rhyw berthynas rhwng Clopas a'r Fair hon, a'r golygiad mwyaf naturiol yw mai ei wraig ydoedd. Ond ai yr un person oedd "chwaer ei fam Et" a Mair gwraig Clopas"? Deil y gwreiddiol y dehongl- iad hwn ond annhebyg iawn yw y buasai dwy chwaer yn dwyn yr un enw Mair." Enwa Mathew (xxvii. 56) a Marc (xv. 40) rai o'r gwragedd oedd yn edrych o hirbell" ar y dioddefydd. Rhestr Mat- hew yw, Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joses, a mam meibion Zebedeus." Rhestr Marc yw, Mair Magdalen, a Mair mam Iago fychan a Jose, a Salome." Naturiol yw casglu (1) mai Salome oedd mam meibion Zebedeus; (2) mai hi hefyd oedd chwaer Mair mam yr Iesu, ac felly fod Ioan yr Apostol yn gefnder i'r Gwaredwr; (3) mai "Mair mam Iago a Joses" oedd "Mair gwraig Clopas," ac felly mai pedair ac nid tair o wragedd a nodir yma gan y pedwerydd Efengyl- wr. Nid yw Mathew na Marc yn nodi mam yr Iesu ymhlith y gwrag- edd. Enwir lago a Joses ym Mat. xiii. 55 a Marc vi. 3 fel dau o frodyr Iesu Grist; ac felly gallesid dadlau mai mam yr Iesu a olygai Mathew a Marc wrth Mair mam Iago a Joses," onibai mai anhygoel yw y bu- asai'r ddau Efengylwr yn ei galw yn fam y ddeuddyn hyn, ac nid yn fam yr Iesu. Wrth Lago fychanym Marc cytunir i olygu'r Apostol lago mab Alpheus: ond y mae'r enw Joses neu Jose yn peri peth anhawster, gan nad oedd ymhlith yr Apostolion un yn dwyn yr enw hwnnw. Y tebyg, modd bynnag, yw mai yr un oedd Joses à Judas "nid yr Iscariot," yr hwn hefyd oedd fab i Alpheus; a chan y gall "Alpheus" a "Clopas" yn hawdd fod yn ddwy ffurf ar yr un enw casglwn mai mam y ddau Apostol "Iago fychan" a "Judas nid yr Iscariot" (Mathew neu Lefi hefyd, yn ôl Marc ii. 14) oedd "Mair gwraig Clopas." Nid oes sail ddigonol dros dybied mai y "Clopas " hwn oedd y Cleopas" ar y ffordd i Emmaus (Luc xxiv. 18). olaf, os yr Apostol Ioan oedd awdur y bedwaredd Efengyl, hawdd deall paham yr ymetyl ef, gyda'i wylder arferol, rhag enwi ei fam ei hun. Yn 25. Yr Iesu ("Iesu ") gan hynny. chaniatawyd i'r Arglwydd Iesu roddi ei ddillad i'r neb y mynnai: ond caroad roddi ei fam i ofal y disgybl a garai. Tybia Westcott (ac eraill) mai meibion, nid i Joseff a Mair, ond i Joseff trwy briodas flaenorol, oedd "brodyr" yr Iesu; ac felly yr esbonia Westcott y ffaith mai i Ioan, yr hwn oedd yn berthynas i Mair, ac nid i'w "frodyr" ei Hun, y rhoddodd y Gwaredwr ofal ei fam. Os meibion i Mair oedd y "brodyr," gellir casglu mai rheswm y Gwaredwr dros fyned heibio iddynt hwy oedd y ffaith nad oedd ei frodyr yn credu ynddo (vii. 5) hyd yma. O wraig, wele dy fab. Prin y mae Westcott yn gywir wrth weled yn y cyfarchiad, "O wraig," arwydd fod perthynas naturiol mam a