148 EFENGYL IOAN. XIX. 29 wedodd, Y mae syched arnaf. Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr; a hwy a lanwas- ant yspwing o finegr, ac a'i rhoddasant ynghylch isop, 30 ac a'i dodasant wrth ei enau ef. Yna pan gymmerodd yr Iesu y finegr, efe a ddywedodd, Gorphenwyd: a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fynu yr yspryd. 31 Yr Iuddewon gan hynny, fel nad arhoai y cyrph ar y groes ar y Sabbath, o herwydd ei bod yn ddarpar- wyl, (canys mawr oedd y dydd Sabbath hwnnw,) a ddeisyfasant ar Pilat gael torri eu hesgeiriau hwynt, 29. Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr. Tros- glwydder y gan hynny" o'r frawddeg hon i'r nesaf, a darllener: Yr oedd llestr llawn o finegr gerllaw." Yr oedd y llestr hwn wedi ei ddarparu i leddfu syched y dioddefwyr. ac a'i dodasant. A hwy a lanwasant. Gwell, gan hynny, wedi rhoddi yspwng llawn o'r finegr ynghylch isop, hwy a'i dodasant wrth ei enau Ef." Un ohonynt," Un ohonynt," medd Mathew, rhywun," medd Marc, a wnaeth y weithred hon un o'r milwyr, mae'n debyg. Gweithred o gymwynasgarwch naturiol ydoedd, a bu- asai'r milwyr yr un mor barod i wneud y gymwynas i un o'r ddau ddioddefydd arall. Y mae'r ffaith fod y llestr wedi ei ddarparu yn profi fod hyn yn beth cyffredin. Eto pwy a ŵyr nad oedd gweddi'r Gwaredwr dros y milwyr wedi dechrau tyneru eu calonnau tuag ato Ef? Cyfrwng yn unig oedd yr isop, ac nid rhan o'r ddiod Gosodwyd yr yspwng ar gorsen o isop, yr hon oedd yn ddigon hir i gyrraedd genau'r dioddefydd. Gwrthodasai'r Gwaredwr y ddiod a gynigiasid iddo ar y dechrau (Mat. xxvii. 34, Marc xv. 23), am yr ewyllysiai wynebu ei ddioddefiadau mewn llawn feddiant o'i ymwybyddiaeth; ond yn awr derbyniodd y finegr i leddfu ei syched, am y gwyddai fod pob peth wedi ei orffen weithian." 30. Gorffennwyd. Gadael eu gwaith ar ei ganol y mae dynion yn gyffredin wrth farw: gollwng yr edau o'u llaw yn y man y digwydd fod, gan ddisgwyl i arall ei phigo i fyny a'i dilyn ymlaen. Ond dyma Un a allodd ddweud wrth farw, "Gorffennwyd !" Efe a roddes i fyny yr ysbryd. Awgryma'r ymadrodd hwn yn y gwreiddiol, yn eglurach nag yn y Gymraeg, mai gweithred wirfoddol oedd marw i'r Arglwydd Iesu. "Rhoddi i fyny yr ysbryd o'i wir ewyllys a wnaeth Ef ar y funud olaf. 31. Canys mawr oedd y dydd Sabbath hwnnw (yn llythrennol, "dydd y Saboth hwnnw "). Mawr hefyd oedd gofal yr Iddewon am lythyren y gyfraith. O dan unrhyw amgylchiadau, buasai raid symud
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/152
Gwedd