XIX. EFENGYL IOAN. 149 32 a'u tynnu i lawr. Yna y milwyr a ddaethant, ac a dor- rasant esgeiriau y cyntaf, a'r llall yr hwn a groeshoel- 33 iasid gyd âg ef. Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eisoes, ni thorrasant ei 34 esgeiriau ef. Ond un o'r milwyr a wanodd ei ystlys. ef à gwaywffon ac yn y fan daeth allan waed a dwfr. y cyrff cyn y nos: ond yr oedd hynny'n fwy gorfodol fyth o dan yr amgylchiadau arbennig ar y pryd, gan fod y dydd dilynol yn Saboth mawr," h.y., yn Saboth deublyg, yn seithfed dydd yr wythnos a hefyd yn ddydd cyntaf gwyl y Pasg, yr hwn fuasai'n "Saboth " hyd yn oed pe disgynasai ar ryw ddydd arall o'r wythnos. A ddeisyfasant ar (gwell, a ofynasant i") Pilat. Nid deisyf ffafr yr oeddynt, ond gofyn am yr hyn a dybient oedd resymol. 32. Ac a dorrasant esgeiriau. Nid oedd hyn yn rhan o'r gosb o groeshoelio: ond gwnaed ef y tro hwn i brysuro marwolaeth y dioddefwyr. 33. Pan welsant ef wedi marw eisoes. Y Gwaredwr oedd y cyntaf o'r tri farw. Pan aeth y lleidr edifeiriol"i Baradwys, yr oedd y Gwaredwr yno yn barod i'w dderbyn. 34. Ond un o'r milwyr a wanodd ei ystlys ef à gwaywifon. Yr amcan yn ddiau oedd sicrhau ei fod wedi marw. Gall y gair a gyf. eithir gwanu" olygu un ai trawiad ysgafn neu drawiad trwm: ond yr olaf yn ddiau a olygir yma. Y Ac yn y fan daeth allan waed a dwir. Esbonir y ffaith hon mewn dwy ffordd (1) fel ffaith naturiol; (2) fel ffaith oruwchnaturiol. mae'r rhai sydd yn ei hesbonio fel ffaith naturiol yn amrywio yn eu barnau am ei harwyddocâd. Tybia rhai ohonynt nad oedd yr Ar- glwydd Iesu hyd yma wedi marw, ac mai mewn canlyniad i'r trawiad hwn y bu farw. Gyda mwy o sail tybia eraill ei fod wedi marw cyn y trawiad, ond mai canlyniad naturiol y trawiad, a dim yn ych- waneg, oedd rhediad y gwaed a'r dwfr. Ond nid oes sicrwydd gwyddonol digonol y gallasai peth fel hyn fod yn effaith naturiol y trawiad ac heblaw hynny y mae'r arbenigrwydd a roddir ar y ffaith gan yr Efengylwr yn yr adnod nesaf yn dangos ei fod ef yn edrych arni, ac yn bwriadu i'w ddarllenwyr edrych arni, fel ffaith oruwch- naturiol. Anturia Westcott y dybiaeth fod corff ein Harglwydd, y foment y bu Ef farw, wedi dechrau myned trwy'r cyfnewidiad a ar- weiniodd yn y man i'w atgyfodiad, ac mai arwydd o hynny oedd rhed- iad y gwaed a'r dwfr. Pa fodd bynnag am hynny, y mae'r Eglwys. yn dra phriodol wedi canfod yn y gwaed a'r dwfr arwyddluniau o ystyr ddeublyg marwolaeth y Gwaredwr. Mae Duw yn maddau a glanhau Yn angau'r Oen a laddwyd.
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/153
Gwedd