Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XIX. EFENGYL IOAN. 151 39 ac a ddug ymaith gorph yr Iesu. A daeth Nicodemus hefyd, (yr hwn ar y cyntaf a ddaethai at yr Iesu o hyd nos,) ac a ddug fyrr ac aloes y'nghymmysg, tu a chàn 40 pwys. Yna y cymmerasant gorph yr Iesu, ac a'i rhwymasant mewn llieiniau, gyd âg aroglau, fel y mae 41 arfer yr Iuddewon ar gladdu. Ac yn y fangre lle y croeshoeliasid ef, yr oedd gardd; a bedd newydd yn. 42 yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed. Ac yno, rhag nesed oedd darpar-wyl yr Iuddewon, am fod y bedd hwnnw yn agos, y rhoddasant yr Iesu. Yna y daeth ("Gan hynny ") efe ac a ddug ymaith gorff yr Iesu. Cywirach, ei gorff Ef." 39. Ar y cyntaf. Gall hyn olygu, yn syml, "yn nechreuad gweini dogaeth yr Iesu " ond dichon hefyd fod yna gyferbyniad bwriadol rhwng ymddygiad ofnus Nicodemus ar y cyntaf " a'i ymddygiad gwrol yn awr. Gwyddom fod Nicodemus yn y cyfamser wedi cyn- yddu mewn gwroldeb (gweler vii. 50-52). Dywaid Luc yn bendant nad oedd Joseff, er yn aelod o'r Sanhedrim, wedi cytuno â'u cyngor ac â'u gweithred hwynt;" a sicr yw, os gwybu Nicodemus mewn pryd am "eu cyngor a'u gweithred hwynt," fod yr un peth yn wir amdano yntau, oedd hefyd yn aelod o'r Sanhedrim. Disgyblion cuddiedig, modd bynnag, oedd y ddau hyd yma; ond trwy'r weithred hon daeth- ant yn ddisgyblion agored. Tu a chan pwys. Cynhwysai "pwys" Rhufeinig oddeutu deu- ddeng owns. Y mae'r swm anferth hwn wedi peri anhawster i rai: ond gellir ei esbonio ar y dybiaeth mai amcan Nicodemus oedd gor- chuddio'r corff yn llwyr. Nid oedd Nicodemus, mwy na'r apostolion a'r gwragedd, yn disgwyl atgyfodiad y Gwaredwr. 40. Mewn llieiniau, gyd ag aroglau. Yn fanwl, gyda'r arogl- au." 41. A bedd newydd yn yr ardd. Dywaid Mathew mai eiddo Joseff o Arimathea oedd y bedd; a dywaid y tri Efengylwr Cyfolwg ei fod wedi ei naddu mewn craig. Yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed. Felly ni ddygwyd corff yr Ar- glwydd Iesu i gyffyrddiad à llygredigaeth. 42. Ac yno ("Yno gan hynny "), rhag nesed oedd darpar-wyl yr Iddewon (cywirach, "oherwydd darpar-wyl yr Iddewon"). Dydd y Croeshoeliad oedd y ddarpar-wyl: ac yr oedd y dydd hwnnw yn agosáu i'w derfyn. Am fod y bedd hwnnw (cywirach, yn syml, "y bedd") yn agos.