152 EFENGYL IOAN. XX. 2 PENNOD XX. I Y dydd cyntaf o'r wythnos, Mair Magdalen a ddaeth y bore, a hi etto yn dywyll, at y bedd; ac a welodd y maen wedi ei dynnu ymaith oddi ar y bedd. Yna y rhedodd hi, ac a ddaeth at Simon Petr, a'r disgybl arall yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu, ac a ddywed- odd wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd ymaith 1. Y dydd cyntaf o'r wythnos. Yn llythrennol, o'r Sabothau." Defnyddid y gair Sabothau," yn y rhif iluosog, i olygu wythnos " yn ogystal â Saboth." Mair Magdalen a ddaeth ( y mae Mair Magdalen yn dyfod "). Hi yn unig a enwa'r Efengylwr hwn. Enwa Mathew hi a'r Fair arall" (mam Iago a Joses); enwa Marc y ddwy hyn gyda Salome; ac enwa Luc y ddwy Fair gyda Joanna, ond gan ychwanegu bod eraill gyda hwynt. Y tebyg yw bod Mair Magdalen wedi cyrraedd y bedd o flaen y lleill. Y bore (gwell, yn gynnar "), a hi eto yn dywyll. Dywaid Luc (xxiii. 6) fod y gwragedd wedi gorffwys ar y Saboth, "yn ôl y gorch- ymyn." Hwnnw oedd y Saboth mwyaf diorffwys a welodd y gwrag- edd erioed; eto, o barch i'r gorchymyn,' gorffwysasant" (y diweddar Robert Roberts, Ceínywaun). Ac a welodd ("ac yn gweled," y presennol byw eto) y maen wedi ei dynnu ymaith oddi ar y bedd. Dywaid yr holl Efengylwyr Cyfolwg mai ei dreiglo " ymaith a gafodd y maen; a dywaid Mat- hew mai angel a'i treiglodd. Y mae ffurf yr ymadrodd a ddefnyddir gan Ioan, ei dynnu ymaith oddi ar y bedd,"-yn awgrymu, medd Westcott, fod y maen yn llenwi genau'r bedd. - 2. Yna (Gan hynny ") y rhedodd hi, ac a ddaeth ( y mae hi ya rhedeg, ac yn dyfod"). Ac a ddywedodd (ac yn dywedyd ") wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd ymaith o'r bedd. Pwy a olygai Magdalen wrth "hwy," -pa un ai gelynion y Gwaredwr ynteu ei gyfeillion Joseff a Nico- demus,-ni wyddom, a thebyg yw na wyddai hithau. Ond amlwg yw nad oedd hi am foment yn meddwl mai wedi atgyfodi yr oedd Ef. Ac ni wyddom ni. .. Er mai Magdalen yn unig oedd wedi cyrraedd y bedd, cysyllta hi'r gwragedd eraill,-y rhai o bosibl oedd. wedi cyd-gychwyn â hi,-âà hi ei hun yn y datganiad hwn.
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/156
Gwedd