XX. EFENGYL IOAN. 153 3 o'r bedd, ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef. Yna Petr a aeth allan, a'r disgybl arall, a hwy a ddaethant 4 at y bedd; Ac a redasant ill dau ynghyd: a'r disgybl arall a redodd o'r blaen yn gynt na Phetr, ac a ddaeth 5 yn gyntaf at y bedd. Ac wedi iddo grymmu, efe a ganfu y llieiniau wedi eu gosod: er hynny nid aeth efe 6 i mewn. Yna y daeth Simon Petr yn ei ganlyn ef, ac ac a aeth i mewn i'r bedd, ac a ganfu 7 y llieiniau wedi eu gosod; A'r napcyn a fuasai am ei ben ef, wedi ei osod, nid gyd a'r lliein- 3. Yna (Gan hynny ") Petr ..., a'r disgybl arall. Gweler fel y mae'r Efengylwr yn rhoddi'r flaenoriaeth i Petr. A hwy a ddaethant (gwell, ac yr oeddynt yn myned") at y bedd. Yn myned yr oeddynt; nid oeddynt eto wedi cyrraedd yno. 4. Ac a redasant (gwell, Ac yr oeddynt yn rhedeg ") ill dau yng- hyd a'r disgybl arali a redodd o'r blaen yn gynt na Phetr, nid am ei fod yn fwy eiddgar, ond am ei fod yn ieuangach. 5. Ac wedi iddo grymu, efe a ganiu (y mae yn canfod ") y Ilieiniau wedi eu gosod; er hynny nid aeth efe i mewn. Paham? Nid rhag ofn llygriad seremoniol, fel y tybia rhai; ond am fod arswyd wedi ei feddiannu. 6. Yna y daeth Simon Petr (cywirach, y mae Simon Petr hefyd yn dyfod") yn ei ganlyn ef, ac a aeth i mewn i'r bedd. Prin yr ydym yn fodlon i ddweud bod Petr yn fwy gwrol na'r disgybl arall;" ond yr oedd yn hŷn, ac yn benderfynol o wynebu'r gorau neu'r gwaethaf ar unwaith. Ac a ganfu (gwell, ac y mae yn syllu ar ") y llieiniau wedi eu gosod. Nid yr un gair a gyfieithir canfod" yma ag yn adn 5. Gweled y llieiniau a wnaeth y "disgybl arall;" syllu arnynt a wnaeth Petr. 7. A'r napcyn. Ni welsai'r disgybl arall " mo hwn. A fuasai am ei ben ef. Gwell, yr hwn oedd ar ei ben Ef." Wedi ei osod, nid gyda'r llieiniau, ond o'r neilltu wedi ei blygu mewn lle arall. Gwell, nid wedi ei osod gyda'r llieiniau, ond wedi ei blygu o'r neilltu mewn un lle." Nid oes yn hyn oll unrhyw ar- wydd brys i'r gwrthwyneb, yr oedd popeth yn weddaidd ac mewn trefn. Amlwg ydoedd nad oedd gelynion yr Arglwydd Iesu, na'i gyf- eillion ychwaith, wedi dwyn ymaith ei gorff Ef: pe buasai'r naill
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/157
Gwedd