154 EFENGYL IOAN, XX. 8 iau, ond o'r neilldu wedi ei blygu mewn lle arall. Yna yr aeth y disgybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaeth- ai yn gyntaf at y bedd; ac a welodd, ac a gredodd. 9 Canys hyd yn hyn ni wyddent yr ysgrythyr, fod yn 10 rhaid iddo gyfodi o feirw. Yna y disgyblion a aeth- ant ymaith drachefn at yr eiddynt. II Ond Mair a safodd wrth y bedd oddi allan, yn wylo: ac fel yr oedd hi yn wylo, hi a ymostyngodd i'r bedd; neu'r llall wedi gwneud hynny, gallesid disgwyl golygfa wahanol. Y casgliad naturiol oedd, fod y Gwaredwr wedi atgyfodi, ac mai "Ef ei Hun a dynnodd y llieiniau a'r napcyn oddi amdano, os cafodd angel y fraint o'u lapio" (Joseph Thomas, Carno). A dynnodd y ddau ddisgybl y casgliad hwn? Gweler ar yr adnod nesaf. 8. Yna (gwell, Yna gan hynny ") yr aeth y disgybl arall hefyd i mewn, wedi cael ohono sicrwydd fod y bedd yn wag. Ac a welodd, ac a gredodd. "A gredodd" beth? Ni welsai ef eto mo'r Iesu ar ôl ei atgyfodiad; ond yr oedd yr hyn a welsai yn cau allan bob tybiaeth wahanol (gweler ar adn. 7). Felly rhaid tybied, gyda Meyer, ddarfod i'r disgybl gredu'r pryd hwn fod ei Arglwydd wedi atgyfodi; neu o leiaf, gyda Westcott, ddarfed iddo gredu fod rhywbeth ag y gallai bellach aros yn dawel am yr eglurhad arno. Amlwg yw bod yr Efengylwr am i'w ddarllenwyr ddeall bod Petr hefyd wedi credu" yr un modd, er na ddywaid mo hynny mewn. geiriau. Yr "ys- 9. Canys hyd yn hyn ni wyddent yr ysgrythyr. grythur hon yw Ps. xvi. 10. Nid anwybodus o'r adnod oedd y ddau ddisgybl, ond anwybodus o'i hystyr a'i chymhwysiad at Iesu Grist. Dylasai'r ysgrythur fod wedi eu paratoi i ddisgwyl ei atgyfodiad Ef, yn enwedig am ei fod Yntau ei Hun wedi llefaru i'r un perwyl. Ond y ffaith yw, mai ar ôl cael tystiolaeth o'i atgyfodiad y deallasant yr "ysgrythur," ac y deallasant hefyd ei eiriau blaenorol Ef ei Hun." 10. Yna ("Gan hynny ") y disgyblion a aethant ymaith drachefn at yr eiddynt. Teimlent nad oedd ganddynt ddim yn ychwaneg i'w wneud nac i'w ddisgwyl wrth y bedd; a bodlon oeddynt i aros am ddatguddiad pellach. 11. Ond Mair a safodd (gwell, "oedd wedi sefyll ") wrth y bedd oddi allan, yn wylo. Amlwg yw bod Magdalen wedi dychwelyd at y bedd, ac nad oedd y ddau ddisgybl wedi ei gweled i adrodd iddi'r hyn a welsent. Felly yr oedd hi eto yn wylo, heb yr esmwythâd a gawsent hwy.
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/158
Gwedd