156 EFENGYL IOAN. XX. 15 oedd efe. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? pwy yr wyt ti yn ei geisio? Hithau yn tybied mai y garddwr oedd efe, a ddywed- odd wrtho, Syr, os tydi a'i dygaist ef, dywed i mi pa le 16 y dodaist ef, a myfi a'i cymmeraf ef ymaith. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Mair. Hithau a droes, ac a ddy- wedodd wrth, Rabboni; yr hyn yw dywedyd, Athraw. 15. Yr Iesu a ddywedodd (Dywaid Iesu ") wrthi. Pwy yr wyt ti yn ei geisio? Gofyn y Gwaredwr i ddechrau yr un cwestiwn a'r angylion; ond ychwanega gwestiwn arall, oedd mewn rhan yn ateb i'r cyntaf. Er hynny, gwyddai Ef yn dda pwy a geisiai hi. Hithau, yn tybied mai y garddwr oedd efe. Beth bynnag oedd y gwahaniaeth yn ymddangosiad yr Iesu ar ôl ei atgyfodiad, amlwg yw nad oedd y gwahaniaeth hwn yn ei wneud yn llai dynol. A ddywedodd (a ddywaid ") wrtho, Syr (yn llythrennol, "Ar- glwydd "). Rhyfedd fod Magdalen yn galw'r garddwr" tybiedig yn Arglwydd;" ond meddyliai hi fod y garddwr yn gyfaill ac nid yn elyn i'r Iesu, ac yr oedd ei galar mor fawr fel ag i'w gwneud yn barod i dalu'r parch mwyaf i unrhyw un o'i gyfeillion Ef. Os tydi a'i dygaist (yn llythrennol, a'i cariaist") ef, dywed i mi pa le y dodaist ef. Nid yw Magdalen yn enwi'r Person yr oedd hi yn ei geisio; tybiai fod y garddwr yn gwybod pwy ydoedd. A myli a'i cymeraf ef ymaith, h.y., i'w gladdu drachefn mewn lle arall. Gan faint ei chariad, anghofiodd Magdalen ei rhyw a'i gwen- did; tybiodd y buasai hi yn ddigon cref i'w gymryd Ef ymaith." Pan 16. Yr Iesu a ddywedodd ("Dywaid Iesu ") wrthi, Mair. glywodd Magdalen ei lais Ef y tro cyntaf, methodd â'i adnabod; ond y foment y clywodd Ef yn ei galw wrth ei henw, ni feddyliodd hi mwyach mai y garddwr oedd. Hithau a droes, ac a ddywedodd wrtho. Cywirach, "Y mae hithau, wedi troi, yn dywedyd wrtho yn Hebraeg." Paham yr oedd. yn rhaid iddi "droi" ni wyddom; efallai ei bod yn flaenorol, ar ôl lefaru'r geiriau yn adn. 15, wedi troi i edrych ar y bedd. Ond nid yng nghyfeiriad y bedd yr oedd yr Iesu i'w weled. Paham y dywaid yr Efengylwr mai "yn Hebraeg" (Aramaeg) y cyfarchodd Mag- dalen y Gwaredwr yn awr? Nid ydym i ddeall mai yn yr iaith Roeg y siaradasai hi o'r blaen; ond ychwanega'r Efengylwr y gair "yn Hebraeg" er mwyn ei ddarllenwyr Groegaidd.
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/160
Gwedd