Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

158 EFENGYL IOAN. XX. 18 chwithau. Mair Magdalen a ddaeth ac a fynegodd i'r disgyblion, weled o honi hi yr Arglwydd, a dywedyd o hono y pethau hyn iddi. 19 Yna, a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos, a'r drysau yn gauad lle yr oedd y disgyblion wedi ym- gasglu ynghyd rhag ofn yr Iuddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt, At fy Nhad i a'ch Tad chwithau, a'm Duw i a'ch Duw chwith:au. Gwel Westcott yn y geiriau hyn awgrym fod yr Arglwydd Iesu'n am. canu gwahaniaethu rhwng ei berthynas Ef ei Hun a pherthynas ei bobl à Duw fel Tad. Gwir fod gwahaniaeth, y mae Duw'n Dad i Iesu Grist mewn ystyr nad yw'n Dad i neb arall ynddi; ond prin y buasai'r Gwaredwr, newydd iddo alw ei ddisgyblion yn frodyr," yn brysio i'w ddidol ei Hun fel hyn oddi wrthynt. Nid y gwahaniaeth, ond yr undeb, rhyngddo Ef a hwythau oedd oruchaf yn ei feddwl Ef yr adeg hon; fel pe dywedasai, Fy Nhad I yw eich Tad chwithau, a'm Duw I yw eich Duw chwithau." Cadarnheir hyn gan y ffaith fod y Gwaredwr yn cyfeirio at y Tad fel ei Dduw." Trwy hyn fe'i gesyd ei Hun ar yr un tir â'i "frodyr." 18. Mair Magdalen a ddaeth ac a fynegodd. Gwell, Y mae Mair Magdalen yn dyfod gan fynegi." Awgryma ffurf yr ymadrodd fod. Magdalen, yn ei llawenydd, wedi dechrau gweiddi'r newydd da cyn cyrraedd y disgyblion; a chadarnheir hyn gan ffurf y geiriau sydd yn dilyn (gweler y nodiad nesaf). Weled ohoni hi yr Arglwydd, a dywedyd ohono y pethau hyn iddi. Yn y gwreiddiol, Gwelais yr Arglwydd; a dywedodd y pethau hyn iddi." Y mae'r cyfnewidiad sydyn hwn o'r person cyntaf i'r trydydd yn cadarnhau'r dybiaeth fod Magdalen, cyn cyrraedd y disgyblion, wedi llefain, "Gwelais yr Arglwydd," ac ar ôl eu cyrraedd wedi ad- rodd iddynt yr hyn a ddywedasai Ef. Mor fyw yw'r disgrifiad! 19. A'r drysau yn gauad lle yr oedd y disgyblion. Gadawer allan "wedi ymgasglu ynghyd." Rhag ofn yr Iddewon. Yr oedd y newydd am yr Atgyfodiad wedi ymledu, ac ni wyddai'r disgyblion beth a wnâi'r Iddewon. Y dis- gyblion oedd yn y perygl erbyn hyn: gwnaethai'r Iddewon eu gwaeth- af i'r Iesu, a hynny'n ofer. Daeth yr Iesu, . ..., ac a ddywedodd ("a dywaid ") wrthynt. Tangnefedd i chwi. Hwn oedd y cyfarchiad arferol ar y cyfryw achlysuron; ond y tro hwn yr oedd iddo ystyr a grym arbennig. Trwy'r cyfarchiad hwn tawelodd y Gwaredwr, unwaith am byth, yr ystorm oedd ym mynwesau'r disgyblion. Atgofir ni o'r geiriau a lef- arasai Ef wrthynt yn xiv. 27 (efallai yn yr un ystafell), cyn dioddef ohono.