Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

160 EFENGYL IOAN. XX. 23 wrthynt, Derbyniwch yr Yspryd Glân. Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt; a'r eiddo pwy bynnag a attalioch, hwy a attaliwyd. 24 Eithr Thomas, un o'r deuddeg, yr hwn a elwir Didy- tecost yng ngrym yr esgyniad, i'r diben o gynysgaeddu'r disgyblion ag adnoddau teyrnas yr Iesu dyrchafedig. 23. Pwy bynnag y maddeuwch eu pechodau, maddeuir iddynt. Cywirach, fe'u maddeuwyd iddynt." Fel pe dywedasai'r Gwared. wr, Y foment y byddwch chwi wedi maddau iddynt, bydd y Nef- oedd hefyd wedi maddau iddynt." Y mae'r ddau faddeuant-madd- euant yr Eglwys a maddeuant y Nefoedd-yn gyfamserol: nid ydynt i'w gwahanu. A ydynt ynteu i'w gwahaniaethu? H.y., a ydym i ddweud mai'r Nefoedd yn unig sydd yn rhoddi 'r maddeuant, tra mai datgan y maddeuant y mae'r Eglwys? Nid oes awgrym o hyn yn y gwreiddiol, gan mai'r un gair yn hollol a ddefnyddia'r Gwaredwr am y ddau faddeuant. Gwir mai Duw yn unig yw ffynhonnell eithaf pob. maddeuant; ond gall Ef ddefnyddio'r Eglwys fel cyfrwng trosglwydd- iad maddeuant, yn ogystal ag fel cyfrwng ei ddatganiad; a chredwn mai dyna yw addewid y Gwaredwr yma, y caiff yr Eglwys y fraint, nid yn unig o ddatgan y maddeuant dwyfol, ond hefyd o'i dros- glwyddo. Yn yr ystyr yna gellir dweud-a dywaid yr Arglwydd Iesu -bod yr Eglwys yn rhoddi'r maddeuant. Os gwrthddadleuir fod i athrawiaeth fel hon ei pheryglon, rhaid cofio tri pheth. (1) Rhodd- wyd y gallu hwn i faddau pechodau, nid i'r deg Apostol yn unig, ond i bawb oedd yn bresennol. Y mae eisiau swyddogaeth eglwysig: ond nid rhagorfraint swyddogaeth fel y cyfryw yw'r gallu i faddau pechod- au. Y mae i'r aelod cyffredin hefyd gyfran yn y rhagorfraint. (2) Rhoddwyd y gallu hwn i'r Apostolion ac i'r disgyblion eraill, nid fel personau unigol, ond fel aelodau o'r Eglwys fawr gyffredinol. Mewn geiriau eraill, rhodd i'r holl Eglwys fel cyfangorff oedd ac ydyw'r gallu i faddau pechodau. (3) Rhoddodd y Gwaredwr y gallu hwn i'r disgyblion yn a thrwy yr act o roddi'r Ysbryd Glân iddynt. Nid yw'r gallu i faddau pechodau yn eiddo i unrhyw gymdeithas sydd heb dderbyn yr Ysbryd, neu heb weithredu o dan ei ddylanwad. Y A'r eiddo pwy bynnag a atalioch, hwy a ataliwyd. Y mae'r gair Cymraeg "atal," fel cyfieithiad o'r gwreiddiol, yn rhy amwys. syniad yw "dal gafael ar," tra mai ystyr lythrennol y gair a gyfieithir "maddau " yw anfon ymaith." Y mae "atal" felly yn wrthwyn- ebol i faddau; a rhoddwyd gallu i'r disgyblion i wneud y naill a'r llall. 24. Eithr Thomas, ..., nid oedd gyda hwynt. Paham nad oedd ef yno, ni wyddom. Dichon nad oedd unrhyw fai arno am ei absenoldeb; ond pa un bynnag am hynny, cafodd golled.