Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XXI. EFENGYL IOAN. 163 PENNOD XXI. 1 Gwedi y pethau hyn, yr Iesu a ymddangosodd dra- chefn i'w ddisgyblion wrth for Tiberias: ac fel hyn 2 yr ymddangosodd. Yr oedd ynghyd Simon Petr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a Nathanael o Cana yn Galilea, a meibion Zebedeus, a dau eraill o'i ddis- 3 gyblion ef. Dywedodd Simon Petr wrthynt, Yr wyf fi yn myned i bysgotta. Dywedasant wrtho, Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyd â thi. A hwy a aethant allan, ac a ddringasant i long yn y man: a'r nos honno 1. Gwedi y pethau hyn. Pa faint wedi, ni wyddom; ond yr oedd y disgyblion yn y cyfamser wedi dychwelyd i Galilea. Amlwg yw fod yr Efengylwr wedi bwriadu diweddu ei Efengyl gyda'r bennod flaenorol felly atodiad yw'r bennod hon, ond atodiad gan yr un awdur: ac nid oes unrhyw dystiolaeth fod y bedwaredd Efengyl erioed wedi bod mewn cylchrediad heb y bennod hon. Yr Iesu (Iesu ") a ymddangosodd (gwell, a'i dangosodd ei Hun) drachefn. 2. A meibion Zebedeus. Prin y buasai unrhyw awdur ond yr Apostol Ican ya yatal rhag eu henwi, nac ychwaith yn eu gosod hwy ar ol Thomas a Nathanael. A dau eraill o'i ddisgyblion ei. Efallai mai Andreas a Philip oedd y ddau hyn. Yr oedd y ddau o Fethsaida yng Ngalilea, a naturiol fuasai iddynt fod yno. Eto llawn mor debyg yw mai dau ddisgybl o'r tu allan i gylch yr apostolion oedd y rhai hyn. Os felly, "meibion Zebedeusa nodir yn olaf o'r apostolion. 3. Dywedodd (Dywaid ") Simon Petr wrthynt, Yr wyf fi yn myned (yn llythrennol, yn myned ymaith ") i bysgota. Dywedas. ant (Dywedant ") wrtho, Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyd â thi. Amlwg yw bod yr apostolion, ar hyn o bryd, yn dilyn eu gorchwylion dacarol gan ddisgwyl am arweiniad pellach; a bod Petr yn cymryd y blaen, ac yn ei gael, gyda gorchwylion daearol yn ogystal â chyda phethau mwy. A hwy a aethant allan. Yn fanwl, "Aethant allan," heb y cys- ylltair "a." Allan o ba le? O'r tŷ lle'r oeddynt yn aros, y mae'n debyg.