Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

164 EFENGYL IOAN. XXI. 4 ni ddaliasant ddim. A phan ddaeth y bore weithian, safodd yr Iesu ar y làn: eithr y disgyblion ni wyddent. 5 mai yr Iesu ydoedd. Yna yr Iesu a ddywedodd wrth- ynt, O blant, a oes gennych ddim bwyd? Hwythau a 6 attebasant iddo, Nac oes. Yntau a ddywedodd wrth- ynt, Bwriwch y rhwyd i'r tu dehau i'r llong, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hynny; ac ni allent Ac a ddringasant (cywirach, "a aethant i mewn ") i long (cywir- ach, i'r llong "). Gadawer allan y geiriau yn y man." Y mae'n debyg mai hen long Petr oedd hon. Gadawsai ef ei long a phopeth arall i ddilyn Crist (gweler Luc v. 11); ond parchwyd ei hawl i'r llong pan gymerodd adfeddiant ohoni am dymor. A'r nos honno ni ddaliasant ddim. Hwyrach y gallwn gasglu oddi wrth ffurf yr ymadrodd yn y gwreiddiol mai eithriad oedd hyn yn hanes y disgyblion, er eu bod wedi cael y profiad unwaith o'r blaen (Luc v. 5). Yr oedd Petr yn fwy o bysgodwr nag o gleddyfwr. 4. A phan ddaeth y bore (gwell, "A phan oedd y bore yn torri ") weithian. Eithr (yn fanwl, modd bynnag "), y disgyblion ni wyddent mai yr Iesu (Iesu ") ydoedd. Rhaid credu bod y Gwaredwr, ar ôl ei atgyfodiad, yn gallu ymddangos fel y mynnai, a'i wneud ei Hun yn anadnabyddus pryd y mynnai. 5. Yna yr Iesu a ddywedodd ("Dywaid Iesu gan hynny") wrthynt. O blant. Cyfarchiad cartrefol yn unig yw hwn. A oes gennych ddim bwyd? Awgryma ffurf y cwestiwn yn y gwreiddiol mai ateb nacaol a ddisgwylir, fel pe dywedasai'r Iesu, Rhaid mai heb ddim bwyd yr ydych." Ystyr lythrennol y gair a gyfiehir yma "bwyd " yw enllyn, neu rywbeth i'w fwyta gyda rhyw- beth arall. Yr enllyn hwnnw yn gyffredin oedd pysgod, y rhai a fwyteid gyda bara. Yn naturiol, tybiodd y disgyblion mai bwriad y dieithr-ddyn oedd prynu pysgod ganddynt. oes. Hwythau a atebasant (gwell, yn syml, "Atebasant ") iddo, Nac 6. Bwriwch y rhwyd a chwi a gewch. Tra y cydna- byddwn fod i'r ddalfa hon o bysgod ryw gymaint o arwyddocâd cyf- riniol ac ysbrydol, prin y gallwn dderbyn golygiad Godet ac eraill, fod y tu aswy i'r llong (lle y tybir fod y disgyblion wedi ceisio pysgota hyd yma) yn arwyddo'r Iddewon, a'r tu dehau yn arwyddo'r Cenhedl- oedd.