XXI. EFENGYL IOAN. 165 7 bellach ei thynnu, gan y lliaws pysgod. Am hynny y disgybl hwnnw yr oedd yr Iesu yn ei garu a ddywed- odd wrth Petr, Yr Arglwydd yw. Yna Simon Petr, pan glybu mai yr Arglwydd oedd, a wregysodd ei amwisg, (canys noeth oedd efe,) ac a'i bwriodd ei 8 hun i'r môr. Eithr y disgyblion eraill a ddaethant mewn llong (oblegid nid oeddynt bell oddi wrth dir, ond megis dau càn cufydd,) dan lusgo y rhwyd â'r 9 pysgod. A chyn gynted ag y daethant i dir, hwy a welent dân o farwor wedi ei osod, a physgod wedi eu Ac ni allent bellach ei thynnu, h.y., ei chodi i'r llong yr oedd. y rhwyd yn rhy drom. Yn y diwedd, tynnwyd hi, nid i'r llong, ond i'r tir (adn. 11). a ddywedodd wrth Petr wrth Petr "). "Y 7. Am hynny y disgybl hwnnw ("Am hynny dywaid y disgybl hwnnw disgybl hwnnw oedd y cyntaf i adnabod yr Iesu: ond Petr sydd yn cymryd y blaen mewn gweithredu. Yna (Gan hynny ") Simon Petr .., a wregysodd ei amwisg (h.y., ei wisg uchaf), canys noeth oedd efe (h.y., heb ddim ond ei wisg isaf). 8. Eithr y disgyblion eraill a ddaethant mewn llong (cywirach, "yn y cwch"). Pa un ai cwch perthynol i'r llong ynteu'r llong ei hun oedd hwn, ni wyddom. Oblegid nid oeddynt bell oddi wrth dir (oddi wrth y tir "), ond megis dau can cufydd,-h.y., oddeutu canllath. Dan lusgo y rhwyd a'r pysgod (yn fanwl, rhwyd y pysgod "). 9. A chyn gynted ag y daethant i dir. Gwell, Gan hynny, pan ddaethant ymaith" (sef ymaith o'r cwch) "i'r tir." Hwy a welent dân ("y maent yn gweled tân ") o farwor wedi ei osod, a physgod wedi eu dodi (yn llythrennol, a pysgodyn wedi ei ddodi ") arno, a bara. Am fod y gair "pysgodyn" yn y rhif unigol, tybia rhai mai un pysgodyn yn unig oedd ar y tân: ond gall y gair olygu swp o bysgod; a dyna yr ystyr debygol yma, oblegid amlwg yw mai'r Iesu oedd wedi darpar y tân a'r bwyd, ac nid darparwr cynnil oedd Ef. Pa un ai mewn modd naturiol ai ynteu mewn modd gwyrth- iol y gwnaethai Ef y darpariadau hyn, ni wyddom; ond gallwn gredu nad un oedd Ef i ddefnyddio ei allu goruwchnaturiol yn ddianghen- raid.
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/169
Gwedd