Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/171

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XXI. EFENGYL IOAN. 167 13 am eu bod yn gwybod mai yr Arglwydd oedd. Yna y daeth yr Iesu, ac a gymmerth fara, ac a'i rhoddes 14 iddynt, a'r pysgod yr un modd. Y drydedd waith hon yn awr yr ymddangosodd yr Iesu i'w ddisgyblion, wedi iddo gyfodi o feirw. 15 Yna gwedi iddynt giniawa, yr Iesu a ddywedodd wrth Simon Petr, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na'r rhai hyn? Dywedodd yntau wrtho, Yd- wyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. oedd Ef, teimlent rywbeth yn eu cymell i ofyn iddo am eglurhad ar ei ymddangosiad: ond yr oedd eu parchedíg ofn yn gryfach na'u cywreinrwydd. 13. Yna daeth yr Iesu, ac a gymerth iara, ac a'i rhoddes iddynt. Gadawer allan y gair Yna," a chyfieither: Y mae Iesu yn dyfod, ac yn cymryd y bara, ac yn ei roddi iddynt." A'r pysgod (yn llythrennol, y pysgodyn,"-gweler ar adn. 9) yr un modd. Ymddengys oddi wrth y cyfeiriad at y bara a'r pysgodyn" mai ei ddarpariadau Ef ei Hun yn unig a rannodd y Gwaredwr i'r disgyblion. Beth a ddaeth o'r pysgod a ddaliaseni hwy, ni ddy- wedir. 14. Y drydedd waith hon yn awr (bellach") yr ymddangosodd yr Iesu (Iesu ") i'w ddisgyblion (i'r disgyblion "). Nid y trydydd ymddangosiad o gwbl, ond y trydydd i'r disgyblion fel cwmni. Ceir hanes y ddau arall yn xx. 19-23 a 24-29. 15. Yna (Gan hynny ") gwedi iddynt giniawa (frecwesta "), yr Iesu a ddywedodd (dywaid yr Iesu ") wrth Simon Petr, Simon mab Jona (cywirach, "Ioan "). A wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na'r rhai hyn? Yn y gwreiddiol, fel yn y Gymraeg, gall y geiriau yn fwy na'r rhai hyn olygu un ai (1) yn fwy nag yr wyt yn caru y rhai hyn," neu (2) yn fwy nag y mae y rhai hyn yn fy ngharu 1." Os (1) yw'r ystyr, gall y rhai hynolygu un ai y pethau hyn (y llong a'r pysgod) neu y per- sonau hyn (y disgyblion eraill). Ond yr oedd Petr ers talm wedi gadael y pethau hyn" i ddilyn yr Iesu; a phrin y buasai'r Gwar- edwr yn ei osod ei Hun allan fel gwrthymgeisydd i'r disgyblion eraill am gariad Petr. O'r ochr arall, yr oedd Petr gynt (xiii. 37, ac yn enwedig Math. xxvi. 33) wedi honni rhagoriaeth ar bawb eraill yn ei gariad at ei Arglwydd: felly rhaid mai (2) yw'r ystyr gywir. Sylwer mai agapâny gair cryfaf-yw'r gair a gyfieithir caru" yn y cwestiwn.