168 EFENGYL IOAN. XXI. 16 Dywedodd yatau wrtho, Portha fy ŵyn. Efe a ddy- wedodd wrtho drachefn yr ail waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. 17 Dywedodd yntau wrtho, Bugeilia fy nefaid. Efe a ddywedodd wrtho y drydedd waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Petr a dristãodd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy ngharu i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bob peth; ti a wyddost fy mod i yn dy garu di. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Portha fy nefaid. Dywedodd yntau ("Dywaid ") wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu (cywirach, yn dy hoffi,"philein') di. Nid yw Petr yn anturio defnyddio'r gair cyntaf; ond teimla'n hollol sicr ei fod yn hoffi" ei Arglwydd, a'i fod Yntau'n gwybod hynny. Dengys y Dywedodd yntau ("Dywaid ") wrtho, Portha fy wyn. Gwaredwr trwy'r geiriau hyn ei fod yn derbyn ateb Petr. Am ystyr yr wyn," gweler ar adn. 17. 16. Efe a ddywedodd ("Dywaid ") wrtho drachefn yr ail waith, Simon mab Jona ("Ioan"), a wyt ti yn fy ngharu i? Er i'r Gwar- edwr dderbyn ateb Petr y tro cyntaf, y mae'n ail ofyn y cwestiwn iddo, ond y tro hwn heb yr ychwanegiad yn fwy na'r rhai hyn. Agapân' yw gair y Gwaredwr y tro hwn eto. Dywedodd yntau ("Dywaid ") wrtho. Etyb Petr yn yr un geir. iau ag o'r blaen, Ti a wyddost fy mod yn dy hoffi Di." Dywedodd yntau ("Dywaid") wrtho, Bugeilia fy nefaid. Hwn yw darlleniad llawysgrifau Seinai ac Alexandria; ond darlleniad llaw- ysgrif y Vatican yw Bugeilia fy nefaid bychain." Gyda pheth pet- ruster dewiswn yr olaf. Am ystyr y "defaid bychain," gweler ar adn. 17. 17. Efe a ddywedodd ("Dywaid ") wrtho y drydedd waith, Simon ., a wyt ti yn fy ngharu i? Cywirach, "yn fy hoffi I;" def- nyddia'r Gwaredwr air Petr ei hun y tro hwn. Petr a dristaodd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy ngharu ("yn fy hoffi") i? Ni allai Petr anghofio mai teir- gwaith y gwadasai yntau ei Arglwydd. Tristaodd hefyd am i'r Iesu newid y gair, fel pe buasai rhyw amheuaeth (er nad oedd dim) yn
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/172
Gwedd